Cyfle i lunio dyfodol cyllid Grŵp Cynefin
Mae Grŵp Cynefin yn chwilio am Bennaeth Cyllid newydd i ymuno â’r sefydliad ar adeg gyffrous o ddatblygu a thrawsnewid.
Gyda ffocws clir ar gryfhau gwasanaethau, moderneiddio’r ffordd rydyn ni’n gweithio a sicrhau bod y sefydliad mewn sefyllfa gref ar gyfer y dyfodol, bydd y Pennaeth Cyllid yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i wireddu’r uchelgais hwn.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn rhan allweddol o gyfarwyddiaeth Cyllid ac Adnoddau Grŵp Cynefin, gan ddarparu arweinyddiaeth ariannol strategol a defnyddio data a mewnwelediad i gefnogi penderfyniadau da ar draws y sefydliad.
Mae’r rôl yn gyfle i arwain a siapio newid, gan ddatblygu swyddogaeth gyllid fodern, flaengar ac uchel ei pherfformiad, moderneiddio systemau a phrosesau, hyrwyddo arloesedd a gwelliant parhaus. Bydd hyn yn sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor.
Gyda 5,000 eiddo, dros 10,000 o denantiaid a mwy na 300 o gydweithwyr, mae hwn yn gyfle i ddefnyddio arbenigedd ariannol strategol i gael effaith wirioneddol mewn sefydliad sydd â phwrpas cymdeithasol clir o wasanaethu pobl a chymunedau ar draws gogledd Cymru a Phowys.
Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Grŵp Cynefin. Rydyn ni’n trawsnewid ac yn datblygu fel sefydliad, gan edrych o’r newydd ar sut rydyn ni’n gweithio a sut gallwn ni ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i’n tenantiaid a’n cymunedau.
Mae cyllid yn ganolog i’r daith hon. Rydyn ni’n chwilio am Bennaeth Cyllid sydd eisiau bod yn rhan o lunio’r dyfodol, rhywun fydd yn dod ag arweinyddiaeth, syniadau newydd a hyder i’n helpu ni i wneud penderfyniadau da a gwireddu ein huchelgeisiau.
Mae’n gyfle gwych i rywun ymuno â ni ar adeg o newid cadarnhaol a gwneud cyfraniad gwirioneddol at bennod nesaf Grŵp Cynefin.
Ychwanegodd Nia Hughes, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau:
“Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle gwirioneddol i rywun roi ei stamp ar ddyfodol ein swyddogaeth gyllid.
“Rydyn ni eisiau datblygu swyddogaeth fodern ac uchel ei pherfformiad sy’n defnyddio data a mewnwelediad yn effeithiol, sy’n barod i arloesi ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â gweddill y sefydliad.
“Rydyn ni felly’n chwilio am arweinydd sy’n gweld cyllid fel llawer mwy na rhifau, rhywun sy’n gallu arwain pobl, herio’n adeiladol, sbarduno gwelliant a’n helpu ni i wneud penderfyniadau hyderus.
“Os ydych chi eisiau defnyddio eich profiad ariannol i ddylanwadu, arwain newid a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, mi fydden ni wrth ein boddau yn clywed gennych chi.”
Bydd y Pennaeth Cyllid yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau a’r tîm arweinyddiaeth ehangach. Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys cynllunio a rhagweld ariannol, trysorlys a chyllid, rheolaeth ariannol ac adrodd, yn ogystal ag arwain a datblygu’r tîm Cyllid. Mae’r rôl wedi’i lleoli yn Ninbych, gyda gweithio o swyddfa Penygroes ag o gartref hefyd yn rhan o’r trefniant.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i’r wefan Swyddi gwag – Grŵp Cynefin