Mae Grŵp Cynefin yn ehangu ei weithlu ac yn creu cyfleoedd gwaith newydd ar draws gogledd Cymru
Mae Grŵp Cynefin yn tyfu, ac rydym yn chwilio am grefftwyr medrus i ymuno â’n tîm mewnol ar draws gogledd Cymru. Mae gennym 11 o swyddi ar gael, ar gyfer labrwyr, plastrwyr, trydanwyr, saer coed a mwy. Os ydych chi’n ymfalchïo yn eich crefft, dyma’ch cyfle i roi eich sgiliau ar waith lle maen nhw wir yn cyfrif.
Mae’r ymgyrch recriwtio yn rhan o fuddsoddiad parhaus Grŵp Cynefin yn ei Weithlu Mewnol (DLO), gan alluogi mwy o waith i gael ei gyflawni’n fewnol. Drwy ehangu’r gweithlu, gall y sefydliad ymateb yn gynt i anghenion atgyweirio a chynnal a chadw, gwella effeithlonrwydd, a sicrhau bod cartrefi’n barod i denantiaid yn gynt.
Fel un o gymdeithasau tai mwyaf gogledd Cymru, rydym yn gofalu am gartrefi a chymdogaethau ar draws y rhanbarth. Os byddwch yn ymuno â ni, bydd gennych gyfle i ddysgu sgiliau newydd, datblygu yn eich crefft ac adeiladu gyrfa wirioneddol.
Mae croeso i bawb yma. Does dim ots o ble rydych chi’n dod na sut y daethoch i’r grefft. Yr hyn sy’n bwysig yw beth allwch chi ei wneud a beth rydych chi’n ei gyfrannu at y tîm. Rydym yn trin pobl yn deg ac â pharch, ac rydym am i’n tîm adlewyrchu’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.
Cartrefi da, cymunedau cryf a chyfle i bobl ffynnu yw hanfod ein cynllun corfforaethol, ‘Lle i Berthyn’. Mae hynny’n wir am ein tenantiaid, ein crefftwyr a’n holl staff.
Dywedodd Rhodri Owen, Cyfarwyddwr Asedau a Thŵf Grŵp Cynefin:
“Rydym yn chwilio am bobl dalentog i ymuno â’n gweithlu mewnol sy’n tyfu. Drwy gryfhau ein tîm, gallwn ymateb yn gynt, meithrin perthnasoedd cryfach gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a phartneriaid, a pharhau i gyflawni gwaith sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau rhagorol. Os ydych yn chwilio am rôl werth chweil lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.”
Mae Grŵp Cynefin yn recriwtio ar hyn o bryd ar draws gogledd Cymru, gyda chyfleoedd ar gael i drydanwyr, seiri coed, plastrwyr, peintwyr ac addurnwyr, a llafurwyr.
Dyddiad cau: Dydd Sul, 25 Hydref 2026. Am fwy o wybodaeth, ewch i: Swyddi gwag – Grŵp Cynefin
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin:
Cyfathrebu@grwpcynefin.org / 0300 111 2122