Penodi cydweithwyr Grŵp Cynefin i Fwrdd TPAS Cymru
Mae TPAS Cymru wedi cyhoeddi aelodau newydd i’w Fwrdd Rheoli, sy’n cynnwys Ruth Yarwood (yn y llun), cynrychiolydd tenantiaid Grŵp Cynefin, a Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant.
Mae TPAS Cymru yn hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ac yn cefnogi tenantiaid a landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau tai.
Mae’r penodiadau yn cydnabod profiad, arbenigedd ac ymrwymiad Nerys a Ruth i hyrwyddo lleisiau tenantiaid a chryfhau cyfranogiad ar draws y sector tai yng Nghymru. Trwy eu penodi i’r Bwrdd, bydd Ruth a Nerys yn cefnogi cenhadaeth TPAS Cymru i sicrhau bod tenantiaid yn parhau i fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a gwella gwasanaethau.
Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:
“Rwy’n falch iawn o weld Ruth a Nerys yn cael eu penodi i Fwrdd TPAS Cymru. Mae’r ddau yn dod â chyfoeth o brofiad, gwybodaeth ac ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Mae eu penodiadau yn cydnabod yr arbenigedd sydd gennym o fewn Grŵp Cynefin, ac rwy’n gwybod y byddant yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i TPAS Cymru a’r sector tai ehangach yng Nghymru.”
Meddai Nerys Price-Jones:
“Rwy’n falch iawn o ymuno â Bwrdd TPAS Cymru. Mae ymgysylltu â thenantiaid wrth wraidd popeth rydyn ni yn ei wneud yn Grŵp Cynefin, ac rydw i yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o bob cwr o Gymru. Gyda’n gilydd mi allwn ni sicrhau bod tenantiaid yn cael llais cryf wrth lunio gwasanaethau, polisïau a chymunedau.”
Fel Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, mae Nerys yn arwain cyfarwyddiaeth eang sy’n cynnwys ymgysylltu â thenantiaid, cyfathrebu, gwaith cymunedol a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ddod â phrofiad helaeth mewn arweinyddiaeth, llywodraethu ac ymgysylltu â’r gymuned.
Meddai Ruth Yarwood:
“Mae’n anrhydedd i mi ymuno â Bwrdd TPAS Cymru a rydw i yn edrych ymlaen am y cyfle i gyfrannu at y gwaith pwysig. Mae gen i brofiad byw ac angerdd i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl yn cael eu clywed. Dwi’n gobeithio helpu i wneud yn siŵr ein bod ni yn ymgysylltu hefo tenantiaid mewn ffyrdd gwahanol i wneud yn siŵr ein bod yn ystyried barn pawb ac yn eu cyrraedd mewn ffyrdd addas iddyn nhw, ar draws yr holl gymunedau amrywiol..”
Mae Ruth yn aelod gweithgar o Bwyllgor Tenantiaid Grŵp Cynefin ac yn eiriolwr brwd dros ymgysylltu â thenantiaid. Ochr yn ochr â’i rôl fel Hyrwyddwr Archwiliad Iechyd gyda Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu, mae hi’n gefnogwr cryf o hawliau anabledd ac yn dod â phrofiad byw gwerthfawr, mewnwelediad ac ymrwymiad i gynhwysiant a chynrychiolaeth gymunedol.
Mae’r penodiadau’n adlewyrchu ymrwymiad Grŵp Cynefin i gynnwys tenantiaid mewn ffordd ystyrlon a sicrhau bod y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau yn chwarae rhan wrth eu llunio. Gyda’i gilydd, mae Ruth a Nerys yn dod â chyfuniad o brofiad byw, arbenigedd proffesiynol ac ymrwymiad i gryfhau cyfranogiad tenantiaid.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Adran Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin yn cyfathrebu@grwpcynefin.org