04 Rhag 2025
Apêl i bobol lenwi holiadur i sefydlu anghenion tai Bae Trearddur
Mae Grŵp Cynefin yn apelio ar i bobol lenwi holiadur i geisio sefydlu beth ydi’r angen am dai yn ardal Bae Treaddur, Ynys Môn. Mae’r argyfwng tai presennol yn golygu bod prisiau tai allan o gyrraedd llawer. O ganlyniad mae llawer o bobl yn cael eu gorfodi i adael yr ardaloedd lle magwyd nhw, er eu bod yn dymuno byw ynddyn nhw a magu teuluoedd eu hunain yma. Mae hyn yn bygwth dyfodol cymunedau fel Bae Treaddur. Ond mae Grŵp Cynefin yn benderfynol o wneud gwahaniaeth. Gallai ymateb cryf i holiadur newydd fod yn sail ar gyfer […]