Newyddion ITV Cymru Wales yn darparu llwyfan i’r rhai sydd wedi eu cefnogi rhag digartrefedd

Mae tenantiaid a chwsmeriaid sydd wedi elwa o uned Yr Hafod yn HWB Dinbych yn gwybod yn uniongyrchol sut mae’r lle yn newid bywydau, atal digartrefedd a chynnig cefnogaeth a gobaith.

Rŵan,  bydd gweddill Cymru yn clywed am y gwaith anhygoel sy’n digwydd yma, mewn adroddiad dau ran arbennig ar ITV News Wales at Six, gyda’r darllediad cyntaf heno.

Mae HWB Dinbych yn ganolfan gymunedol yn Ninbych ac wedi ei lleoli yno mae uned tai â chymorth Yr Hafod, y ddau yn cael eu rhedeg gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Mae Yr Hafod wedi bod yn cynnig cymorth i bobl ifanc 16-25 oed sy’n wynebu digartrefedd yn Sir Ddinbych dros y degawd diwethaf. Mae’n cynnig chwe fflat hunangynhwysol o ansawdd uchel a chefnogaeth 24 awr, gan helpu’r trigolion i ddatblygu sgiliau rheoli tenantiaeth a chael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth.

Meddai Sharon Morris, Cyfarwyddwr Cymdogaethau Grŵp Cynefin: “Nid yn unig y mae Yr Hafod yn rhoi to uwch pennau pobl ifanc, ond mae hefyd yn darparu llawer mwy. Gan ei fod wedi’i leoli yn HWB Dinbych gall hefyd gynnig cyfleoedd addysgol, cyflogaeth a llesiant, gan gynnwys cyrsiau hyfforddi, gweithdai, a chymorth ar gyfer mentrau hunangyflogaeth. Mae’n bwysig bod gweddill Cymru yn clywed straeon y rhai sydd wedi ac yn elwa o’r gwasanaeth, yn uniongyrchol ac yn eu geiriau eu hunain.”

Mae HWB Dinbych yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, Prosiect Ieuenctid Dinbych, Coleg Llandrillo a Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych.

Bydd yr eitemau newyddion yn cael eu darlledu nos Lun 10 Chwefror, a nos Iau, 13 Chwefror, ar ITV News Wales at Six am 6pm.

Am ragor o wybodaeth, cyfweliadau neu astudiaethau achos, cysylltwch â:

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin.

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305

 

Cookie Settings