Partneriaeth yn gyfrifol am adnewyddu cartrefi yng Nghricieth
Pan mae partneriaethau yn cael eu ffurfio, mae pethau gwych yn gallu digwydd! Mae ein datblygiad yn Abereistedd, Cricieth, yn ganlyniad cyd-weithio agos a chynllunio gofalus, oedd yn rhoi ystyriaeth i gymdogion ac i denantiaid oedd yn byw yn yr adeilad yn ystod y datblygu.
Rŵan, dyma adeilad pwrpasol sydd wedi ei adnewyddu i safon uchel, a’i ymddangosiad allanol yn gweddu yn nhref glan môr Cricieth.
Meddai Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin:
“Mae llawer o ystyriaethau wrth fynd ati i ddechrau ar raglen adnewyddu fel hyn. Mi faswn i yn hoffi diolch yn fawr am y cydweithio agos i gyflawni’r gwaith. Roedd yr amserlen yn dynn a nifer o ystyriaethau ychwanegol – felly diolch i’n partneriaid Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, i’r prif gontractwr, Novus, am waith canmoladwy, ac i Mott MacDonald, CYD Innovation a Snowdonia Fire and Security am eu gwaith allweddol.
“Mae darparu cartrefi o safon uchel yn flaenoriaeth i Grŵp Cynefin, ac rydyn ni yn hynod o falch o’r gwaith a wnaed yma i roi cartrefi clyd, diogel i’n tenantiaid.”
Yn ychwanegol i gyllid y gymdeithas, cafwyd cefnogaeth gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cyfweliadau neu astudiaethau achos, cysylltwch â:
Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin.
Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305