Grŵp Cynefin yn codi ymwybyddiaeth ac yn cynnig cefnogaeth yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol yn cael ei chynnal rhwng 5 ac 11 Chwefror. Mae’n gyfle i drafod a mynd i’r afael â cham-drin a thrais rhywiol.

Ei nod yw cydnabod profiadau goroeswyr i greu cymdeithas nad yw’n fodlon dioddef trais rhywiol. Mae’r wythnos yn cynyddu momentwm, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag amryw o sefydliadau’n ymuno, gan gynnwys gwasanaeth cymorth Gorwel o fewn Grŵp Cynefin.

Dywedodd Sharon Morris, Cyfarwyddwr Tai, Grŵp Cynefin: “Mae’r wythnos hon yn pwysleisio cyfrifoldeb pawb wrth fynd i’r afael â thrais rhywiol a chefnogi goroeswyr.

“Mae’r gwaith mae Gorwel yn ei wneud o ran cefnogi goroeswyr yn aruthrol a dylem fod yn falch iawn o’r hyn mae’r tîm wedi ei gyflawni yn darparu cefnogaeth sydd wirioneddol ei angen i’r rhai sydd wedi neu sydd yn dioddef trais rhywiol a chydnabod y pobl gwych sy’n gweithio i ni.

“Mae Gorwel ar daith yn cefnogi’r ymgyrch, gan godi ymwybyddiaeth o’r mater yma a lledaenu’r gair am y gefnogaeth rydyn ni a’n partneriaid yn ei gynnig.”

Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol yn gryno:

  • Hanes: Crëwyd i gefnogi goroeswyr a chodi ymwybyddiaeth.
  • Ystadegau: Mae un o bob tair menyw yn fyd-eang yn profi trais rhywiol; Gwelodd Cymru 582 o erlyniadau am droseddau rhywiol (ac eithrio treisio) yn 2022-23.
  • Diben: I gael pobol i ystyried rhannu adnoddau, a darparu gofod diogel ar gyfer sgyrsiau.

Deall:  Deall bod trais rhywiol yn effeithio ar bobl yn wahanol yn seiliedig ar eu hil, rhyw, rhywioldeb a statws economaidd-gymdeithasol.

Sut i gymryd rhan: Mynychu digwyddiadau, dilynwch yr hashnod #itsnotok, a chael mynediad at adnoddau gan Cymorth i Fenywod Cymru a’r llinell gymorth Byw Heb Ofn.

Cefnogi:

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305

Cookie Settings