Dirprwy Brif Weinidog yn lawnsio strategaeth newydd yn natblygiad Maes Deudraeth

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies wedi ymweld â Maes Deudraeth, datblygiad o 41 o gartrefi newydd i’r gymuned leol sy’n cael eu hadeiladu gan gymdeithasau tai Grŵp Cynefin a ClwydAlyn. Cynhaliwyd yr ymweliad i nodi lansiad Llywodraeth Cymru ar gyfer Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren ac ar ei ymweliad, gwelodd y Dirprwy Brif Weinidog droso’i hun sut mae’r tai a’r fflatiau ynni effeithlon ffrâm bren  wedi’u hadeiladu.

Croesawyd ef gan gynrychiolwyr Grŵp Cynefin a ChlwydAlyn ynghyd â’r contractwr adeiladu, Williams Homes Bala.

Adeiladwyd holl eiddo Maes Deudraeth gan ddefnyddio dulliau modern o adeiladu; mae hyn yn cynnwys strwythurau ffrâm bren Cymreig.

Cyfarfu’r Dirprwy Brif Weinidog hefyd â thenantiaid sydd eisoes yn byw mewn cartrefi ffrâm pren carbon isel, yn ogystal a phrentisiaid sy’n dysgu sgiliau gwyrdd mewn adeiladu tai ac mewn cynhyrchu pren.

Wrth lansio’r strategaeth newydd ar gyfer pren, dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth  Cymru sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd: “Mae pren yn hanfodol i sicrhau Cymru gryfach, tecach a gwyrddach. Mae’r sectorau coedwigaeth, pren ac adeiladu yn cynnig gyrfaoedd amrywiol, gan gynnwys swyddi gwyrdd â chyflog uchel, tra hefyd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

“Drwy weithio gyda diwydiant, gall Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n deillio o greu a gwerthu cynnyrch o goedwigoedd adnewyddadwy, cynaliadwy sy’n cael eu rheoli’n gyfrifol.”

Dywedodd Gwyndaf Williams, Rheolwr Datblygu Grŵp Cynefin: “Mae defnyddio pren Cymreig  yn lleihau ein hôl troed carbon, yn unol â’n strategaethau adeiladu carbon isel, ac yn gwella gwytnwch ein diwydiant adeiladu lleol.”

Ychwanegodd Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin:

“Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda ClwydAlyn i ddarparu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen i’r gornel hon o Eryri gan gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2026.”

Mae cartrefi Maes Deudraeth yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes Y Bala ar ran ClwydAlyn a Grŵp Cynefin ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd sy’n anelu at gyflawni nod y cyngor o adeiladu 700 o gartrefi cymdeithasol ledled y sir o fewn oes ei Gynllun Gweithredu Tai.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson:

“Fel y gwyr pawb erbyn hyn, mae Gwynedd yng nghanol argyfwng tai, gyda’r galw am dai fforddiadwy yn llawer mwy na’r cyflenwad ar draws y sir. Trwy weithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin, ClwydAlyn a Llywodraeth Cymru, gallwn ddarparu mwy o dai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan alluogi pobl leol i aros, ffynnu ac adeiladu eu dyfodol yn eu cymunedau eu hunain.

“Mae sicrhau bod y cartrefi newydd hyn yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau o ffynonellau lleol, fel pren Cymru, nid yn unig yn cefnogi economi Cymru ond hefyd yn cryfhau ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, arloesi a thwf hirdymor yng Ngwynedd.”

Meddai Helen Williams, Rheolwr Prosiect Datblygu ClwydAlyn: “Rydyn ni’n hynod falch o fod yn defnyddio fframiau pren Cymreig yn ein cartrefi newydd ym Mhenrhyndeudraeth. Mae defnyddio cynnyrch lleol yn cefnogi economi Cymru ac yn dangos ansawdd a chynaliadwyedd eithriadol adnoddau naturiol ein rhanbarth.

“Gan weithio gyda Grŵp Cynefin ar y cynllun hwn, rydyn ni’n creu cymuned gynaliadwy sy’n adlewyrchu cymeriad unigryw’r ardal arbennig hon ac sy’n diwallu anghenion pobl a theuluoedd lleol.”

Gall pobl ddweud eu dweud am Strategaeth Goed Llywodraeth Cymru yma:   Y Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren | LLYW.CYMRU

Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, Grŵp Cynefin.

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305

 

Cookie Settings