04 Rhag 2025

Apêl i bobol lenwi holiadur i sefydlu anghenion tai Bae Trearddur

Mae Grŵp Cynefin yn apelio ar i bobol lenwi holiadur i geisio sefydlu beth ydi’r angen am dai yn ardal Bae Treaddur, Ynys Môn.   Mae’r argyfwng tai presennol yn golygu bod prisiau tai allan o gyrraedd llawer. O ganlyniad mae llawer o bobl yn cael eu gorfodi i adael yr ardaloedd lle magwyd nhw, er eu bod yn dymuno byw ynddyn nhw a magu teuluoedd eu hunain yma. Mae hyn yn bygwth dyfodol cymunedau fel Bae Treaddur. Ond mae Grŵp Cynefin yn benderfynol o wneud gwahaniaeth.   Gallai ymateb cryf i holiadur newydd fod yn sail ar gyfer […]

04 Rhag 2025

Cymorth Efo Biliau Dŵr dros y Gaeaf

Mae costau byw yn gallu cynyddu dros y gaeaf, ond mae ffyrdd i gadw rheolaeth ar eich bil dŵr: Gwiriwch am gymorth. Efallai eich bod yn gymwys i gael gostyngiad neu gynllun talu. Edrychwch ar wefan eich darparwr dŵr neu cysylltwch â nhw. Defnyddiwch ddŵr yn ddoeth. Diffoddwch y tap wrth frwsio dannedd, atgyweiriwch ollyngiadau, […]

14 Tach 2025

Rhybuddion tywydd garw, Storm Claudia

Gyda Storm Claudia yn taro, mae rhybudd melyn ar waith ar draws gogledd Cymru. Os ydych yn denant gyda Grŵp Cynefin ac mae angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122. I adrodd am waith trwsio nad yw’n fater brys, cysylltwch â ni yma. Rhifau defnyddiol: Mewn argyfwng: 999 Dim trydan: 105 / […]

31 Hyd 2025

Hoffech chi fyw ym Mae Trearddur, Môn?

Hoffech chi fyw ym Mae Trearddur, Môn? Mae Grŵp Cynefin yn annog trigolion a’r rhai sydd â chysylltiad lleol  â Bae Trearddur a’r cymunedau cyfagos i gymryd rhan mewn holiadur newydd am anghenion tai. Maen nhw yn awyddus yn benodol i glywed gan bobol fyddai a diddordeb mewn byw yn yr ardal, trwy rentu neu […]

30 Hyd 2025

Llwybr beics newydd, cyffrous yn agor yn Ninbych!

Mae adnodd beics newydd yn Ninbych wedi ei agor yn swyddogol gan Gill German AS.  Mae’r llwybr ‘pwmp’ ‘Bumps and Jumps’ newydd ym Maes Cae Hywel yn Ninbych, yn cynnig lle diogel a chyffrous i bobl ifanc reidio beiciau, sglefrfyrddau, sgwteri a chadeiriau olwyn. Gwireddwyd y prosiect gan dîm HWB Dinbych, canolfan gymunedol Grŵp Cynefin […]

27 Hyd 2025

Agoriad Llwybr ‘Bumps and Jumps’ yn Ninbych

Mae llwybr pwmp newydd wedi agor yn swyddogol ar Faes Cae Hywel yn Ninbych, gan gynnig lle diogel a chyffrous i bobl ifanc reidio beiciau, sglefrfyrddau, sgwteri a chadair olwyn. Dechreuodd y syniad gyda dau fachgen lleol oedd eisiau lle diogel i feicio. Daeth eu cais yn ysbrydoliaeth i ymgyrch dan arweiniad pobl ifanc, gyda […]

23 Hyd 2025

Agoriad swyddogol wedi gwaith £12.2 miliwn i ehangu cynllun tai pobol hŷn yn Rhuthun

Cafodd cynllun gofal tai ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun, Sir Ddinbych ei agoriad swyddogol heddiw, gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn bresennol.  Mae cynllun Grŵp Cynefin wedi’i uwchraddio ac ehangu drwy fuddsoddiad o £12.2 miliwn, ac erbyn hyn mae’n cynnig annibyniaeth i ragor o bobl hŷn yn Sir Ddinbych.  Yn ogystal ag adnewyddu’r adeilad blaenorol […]

Llun wedi ei wneud gyda pastels yn ystod cwrs yn Hwb Dinbych

10 Hyd 2025

Grŵp Cynefin yn Cefnogi Diwrnod Digartref y Byd 

Ar Ddiwrnod Digartref y Byd (10 Hydref 2025), mae Grŵp Cynefin yn falch o rannu’r effaith gadarnhaol mae ei wasanaethau yn ei gael yn atal digartrefedd yng  ngogledd Cymru.   Mae digartrefedd yn fater cymhleth sy’n gallu effeithio ar unrhyw un. Mae heddiw yn gyfle hanfodol i godi ymwybyddiaeth, meithrin dealltwriaeth, ac annog gweithredu ystyrlon. Mae […]

10 Hyd 2025

Pobl ifanc fu’n wynebu digartrefedd yn gwneud eu rhan ar Ddiwrnod Digartref y Byd

I nodi Diwrnod Digartref y Byd, mae grŵp o bobl ifanc sydd wedi elwa o wasanaethau digartrefedd Grŵp Cynefin eu hunain yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Ar ôl trafod arwyddocâd y diwrnod gyda staff Grŵp Cynefin, awgrymodd y grŵp greu pecynnau byrbrydau i’w dosbarthu i’r rhai mewn angen. Mae’r Hafod, sydd wedi’i leoli yng […]

Cookie Settings