Grŵp Cynefin yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc

Ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10) mae Gorwel, y rhan o Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau atal digartrefedd, yn tynnu sylw at y math o lety a gwasanaethau cymorth a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, fel Yr Hafod yn Ninbych.

Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau atal digartrefedd ac mae’n cefnogi Diwrnod Digartrefedd y Byd drwy godi ymwybyddiaeth o’r cynnydd mewn digartrefedd a sut y gellir mynd i’r afael ag ef gyda chynlluniau fel yr Hafod, sydd wedi’i leoli yng nghanolfan gymunedol Grŵp Cynefin, HWB Dinbych. Mae HWB Dinbych a Yr Hafod yn cael eu cefnogi gan Gyngor Sir Ddinbych.

Mae’r cynllun yn darparu chwe fflat hunangynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed sy’n wynebu digartrefedd, ynghyd â chymorth 24 awr, ac yn rhoi’r preswylwyr mewn cyswllt â gwasanaethau eraill a gynigir gan HWB Dinbych.

Dywed Osian Elis, Prif Swyddog Gorwel:

Mae digartrefedd yn parhau i godi ar draws Cymru wrth i ni weld effaith yr argyfwng costau byw ar bobl a theuluoedd. Credwn ei bod yn bwysig nid yn unig tynnu sylw at y mater hwn ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd ond hefyd codi ymwybyddiaeth o’r math o wasanaethau sydd eu hangen yng Nghymru i helpu pobl mewn argyfwng i ddod yn ôl ar eu traed.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau misol ar faterion digartrefedd gan gynnwys defnydd o lety dros dro a chysgu allan. Mae’r rhain yn dangos, ochr yn ochr â’r cynnydd mewn digartrefedd dros y flwyddyn, fod Cymru wedi gweld cynnydd yn y defnydd o westai a llety gwely a brecwast.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bron i 11,000 o bobl ddiwedd mis Gorffennaf yn byw mewn llety dros dro gyda gwestai a gwely a brecwast yn cael eu defnyddio fwyaf [mwy o wybodaeth yma Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan | LLYW.CYMRU]

Meddai Noela Jones, Pennaeth Cymdogaethau Grŵp Cynefin: “Mae pawb sy’n gweithio ym maes tai yn gwybod pa mor anodd yw hi i lawer o bobl yn ein cymunedau ar hyn o bryd a’r straen y mae hyn yn ei roi ar wasanaethau tai. Mae angen i ni sicrhau nad yw’r ffordd yr ydyn ni  yn ymateb yn ychwanegu at drawma pobl ond yn eu helpu i adeiladu’r bywydau y maen nhw’n dyheu amdanynt.”

Mae Gorwel yn awgrymu bod ar Gymru angen mwy o lety fel sy’n cael ei ddarparu yn Yr Hafod yn Ninbych, yn enwedig os caiff ei gefnogi ymhellach gan wasanaethau fel y rhai a gynigir yn HWB Dinbych.

Mae HWB Dinbych yn darparu ystod eang o raglenni a digwyddiadau i bobl o bob rhan o Ddinbych yn amrywio o addysg, hyfforddiant a chymorth cyflogaeth, i gelf a chrefft, ieithoedd a hyd yn oed siop atgyweirio.

Mae amrywiaeth o elusennau a chyrff yn defnyddio’r HWB gan gynnwys Sefydliad y Merched, Coleg Llandrillo Menai a’r Ganolfan Waith. Mae hefyd yn gartref i Youth Shedz cyntaf Cymru – menter sydd wedi ennill gwobrau, ac sy’n darparu lle diogel i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw, datblygu perthnasoedd cymdeithasol gyda modelau rôl addas a datblygu a dysgu sgiliau newydd.

Dywed Eirwyn Jones o Goleg Llandrillo Menai: “Gan ei fod wedi ei gydleoli gyda’r Hafod, mae Coleg Llandrillo Menai mewn sefyllfa ddelfrydol i ymgysylltu â’r bobl ifanc a darparu cyfleoedd i wella eu sgiliau rhifedd, llythrennedd, llythrennedd digidol a chyflogadwyedd. Mae hyn yn ei dro yn gwella eu hyder a’u hunanwerth, gan eu galluogi i gael dyfodol mwy disglair.”

Nodiadau’r golygydd:

Mae Gorwel yn rhan o gymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau o safon i gefnogi pobl sydd wedi colli neu sydd mewn perygl o golli eu cartrefi a phobl sy’n goroesi cam-drin domestig. Mae’r mudiad yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, gan gynnwys tenantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir yng Ngogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych.

Mae Diwrnod Digartrefedd y Byd yn digwydd bob blwyddyn ar y 10fed o Hydref. Fe’i sefydlwyd yn 2010 ac fe’i cydnabyddir ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma Diwrnod Digartrefedd y Byd 10fed o Hydref

Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â

Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin.

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305

10-10-23

Cookie Settings