Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon

Mae Cynllun tai gofal ychwanegol Llys Awelon a sefydlwyd yn 2011 yn darparu cartref, cefnogaeth a gwasanaethau gofal i bobl dros 60 oed.

Ar hyn o bryd, mae’r cynllun gwreiddiol o 21 o fflatiau yn cael ei ddiweddaru ac ymestyn gyda 35 uned ychwanegol. Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r Llys Awelon presennol yn llwyr i greu cynllun modern, carbon isel, pwrpasol i gwrdd ag anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych.

Mae’r datblygiad yn dod yn ei flaen yn dda. Cliciwch yma i weld lluniau o’r gwaith adeiladu hyd yn hyn.

Mwy o wybodaeth am Llys Awelon yma.

Grant Cymunedol

Fel rhan o’r cymal gwerth cymdeithasol sy’n ymgorffori buddion cymunedol, mae Grŵp Cynefin a Read Construction, datblygwr y prosiect, yn buddsoddi £18,000 yn y gymuned leol.

Bydd y grant (hyd at £1000) ar gael i grwpiau gwirfoddol neu cymunedol i wneud gwahaniaeth yn ardal Rhuthun a’r cyffiniau (cod post LL15).

Byddwn yn derbyn ceisiadau ar gyfer y grant rhwng 1af o Dachwedd 2023 a 31 Ionawr 2024.

Am fwy o wybodaeth, amodau’r grant a ffurflen gais gweler isod.

 

 

Amodau’r grant

Cynllun grant hyd at £1,000 sydd ar gael i grwpiau sydd yn gweithredu yn Rhuthun a’r cyffiniau (cod post LL15). Mae’r grant ar gael i grwpiau gwirfoddol neu cymunedol i wneud gwahaniaeth o fewn eu cymunedau. Rhaid gwario’r grant o fewn 12 mis.

  • Hybu’r naws cymunedol yn eich ardal
  • Cynnwys yr holl gymuned (e.e. pobl o bob oedran a galluoedd)
  • Annog plant a phobl ifanc i fod yn rhan o’r prosiect
  • Trefnu digwyddiad(au) i ddod â’r gymuned at ei gilydd
  • Cefnogi prosiect parhaol (cymdeithasol neu hobi)
  • Darparu cyfleoedd chwarae a hamdden i blant a phobl ifanc
  • Gwella’r amgylchedd lleol (e.e. dyddiau casglu sbwriel, creu lle ar gyfer bywyd gwyllt)
  • Helpu pobl deimlo’n fwy saff a diogel
  • Gwella lles y gymuned trwy annog ffordd o fyw sy’n iach
  • Hybu’r iaith Gymraeg
  • Ymateb i heriau’r argyfwng costau byw

Bydd ceisiadau yn cael eu derbyn rhwng 1 Tachwedd 2023 a 31 Ionawr 2024.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau gwirfoddol neu cymunedol.

Ni fedrwn ystyried ceisiadau:

  • Tuag at brosiect ar ei ben ei hun/digwyddiad sy’n dechrau/am ddigwydd cyn cyfarfod y Panel Grantiau
  • Os yw cyfanswm costau eich prosiect dros £10,000.
  • Gan cwmnïau sy’n ceisio gwneud elw
  • Gan unigolion
  • Gan ysgolion ar gyfer gweithgareddau prif ffrwd a ddylai gael eu hariannu o ffynhonnell arall
  • Gan grwpiau ar gyfer gweithgareddau crefyddol

Am gyngor neu i drafod os yw’ch prosiect yn gymwys, cysylltwch â Lowri yn y Tîm Mentrau Cymunedol ar 0300 111 2122 neu e-bostiwch mentraucymunedol@grwpcynefin.org

Mae ffurflen gais ar gael i’w lawrlwytho yma neu cysylltwch â ni ar y manylion uchod i dderbyn copi yn y post.

Ffurflen gais

 

Grant Cymunedol Llys Awelon

 

 

 

Cookie Settings