Cyllideb Llywodraeth Cymru yn bygwth gwasanaethau i’r digartref

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried y penderfyniad i rewi cyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yng nghyllideb ddrafft 2023/24. Ymuna Grŵp Cynefin â Chymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymgyrch #MaterionTaiCymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai yn eu Cyllideb Derfynol ar gyfer 2023/24.

Mae uned fusnes bwrpasol Grŵp Cynefin, Gorwel, yn darparu gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n profi cam-drin domestig a phobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o golli eu cartrefi. Byddai rhewi’r cyllid yn rhoi’r gwasanaethau hynny dan fygythiad.

Mae Prif Swyddog Gorwel yn ysgrifennu at Aelodau Senedd Cymru yn ei ardal weithredol yn gofyn iddynt alw ar Weinidogion i wrthdroi’r penderfyniad fel y gellir parhau i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol.Meddai Osian Elis, Prif Swyddog Gorwel:

Rydw i  wedi gweithio yn y sector yma ers dros 20 mlynedd ac yn gweld pethau na welais i erioed o’r blaen. Mae pobl sy’n gweithio’n llawn amser yn cysylltu â ni, yn ddigartref. Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl hŷn – pobl sydd wedi gweithio ar hyd eu hoes a heb orfod chwilio am help o’r blaen – yn dweud wrthyn ni bod eu landlord eisiau eu tŷ yn ôl ac na allan nhw ddod o hyd i unrhyw le maen nhw yn gallu ei fforddio.

Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Rydyn ni mewn argyfwng costau byw ac ar draws gogledd Cymru, rydyn ni’n gweld lefelau tlodi na welwyd eu tebyg o’r blaen, mwy o deuluoedd yn wynebu digartrefedd, a cham-drin domestig ar gynnydd. Rydyn ni yn deall y sefyllfa anodd y mae Llywodraeth Cymru ynddi ond rydw i’n  meddwl bod angen i’n holl gynrychiolwyr gwleidyddol ofyn iddyn nhw eu hunain, ydi hi’n dderbyniol i’r bobl dlotaf yn ein cymunedau gael eu gadael heb y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i oroesi’r argyfwng yma. Mae rhewi’r cyllid yn ei hanfod yn doriad sylweddol – yn enwedig gyda chwyddiant ar ei lefel bresennol. Rydym ni am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i oroesi’r storm ac rydyn ni hefyd am i’n cydweithwyr gael safon byw da yn ogystal. Mae’r gyllideb bresennol yn tanseilio’n sylfaenol ein gallu ni i wneud hynny.”

Mae dadansoddiad Cymorth Cymru yn tynnu sylw at yr anghysondeb enfawr rhwng y galw am wasanaethau a’r cyllid sydd ar gael yn awr. Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod dros 8,500 o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru ac mae’r ffigwr hwn yn cynyddu tua 500 bob mis. Ar yr un pryd, byddai’r gyllideb ddrafft yn golygu bod y cyllid ar gyfer gwasanaethau mewn termau go iawn £18 miliwn yn llai na’r hyn oedd yn 2012.

Mae’r rhai sy’n elwa o wasanaethau Gorwel yn glir am yr effaith a gânt. Meddai  un a oroesodd gam-drin domestig: “Yn llythrennol, fyddwn i ddim yma hebddyn nhw – fe wnaethon nhw fy helpu i drwy uffern.” Dywedodd person hŷn a oedd yn wynebu digartrefedd: “Dydw i ddim yn gwybod ble byddwn i heb Gorwel –mewn lloches bws yn rhywle. Mae wedi newid fy mywyd i’n llwyr. Dwi’n berson gwahanol.”

Dywed Osian Elis: “Bu ein staff yn gweithio trwy gydol y pandemig i wneud yn siŵr bod gan y bobl yn ein cymunedau a oedd yn y sefyllfaoedd mwyaf ansicr ac weithiau peryglus, rhywun i droi atyn nhw. Mae’r gyllideb ddrafft hon yn rhoi’r bobl bregus  yn ein cymunedau mewn perygl ac mae’n dweud wrth fy nghydweithwyr  nad ydi eu hymroddiad na’u gwaith yn bwysig.”

Mae Shan Lloyd Williams yn parhau: “Trwy gydol y pandemig gwelsom sefydliadau cymunedol fel ein un ni yn dod â llywodraeth leol a datganoledig ynghyd ac roedd yr hyn a gyflawnwyd trwy’r cydweithio hwnnw yn anhygoel. Dydi effaith y pandemig ddim drosodd i bobl, mewn gwirionedd mae ffactorau byd-eang eraill yn gwneud yr anawsterau maen nhw yn eu hwynebu yn waeth. Rydyn ni eisiau parhau i chwarae ein rhan i helpu teuluoedd a chymunedau dros y misoedd nesaf ac mae angen i Lywodraeth Cymru ein cefnogi i wneud hynny.”

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Mari Williams

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305

Cookie Settings