Ydych chi’n colli allan ar Gredyd Pensiwn?

 

Mae miloedd o bobl a allai fod yn derbyn Credyd Pensiwn yn colli allan.

Ydych chi, neu rhywun rydych yn ei adnabod yn un o’r bobl yma? Mae’n bwysig eich bod yn derbyn yr hyn sydd gennych hawl iddo.

Ddim yn siŵr am unrhyw beth? Cysylltwch â’n Tîm Lles ar 0300 111 2122. Maen nhw yma i helpu. 

Dyma fwy am Gredyd Pensiwn:

 

Beth yw Credyd Pensiwn?

Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i chi i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Gall Credyd Pensiwn hefyd helpu gyda chostau tai fel rhent daear neu daliadau gwasanaeth. Mae Credyd Pensiwn yn rhywbeth ar wahân i’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych incwm arall, cynilion neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun.

 

Faint alla i ei gael?

Mae Credyd Pensiwn yn werth, ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn. Efallai y cewch help ychwanegol os ydych yn ofalwr, yn anabl iawn neu’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.
Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell Credyd Pensiwn yma i ddarganfod a ydych yn gymwys i Gredyd Pensiwn a faint y gallech chi ei gael

 

Beth arall alla i ei gael os byddaf yn hawlio Credyd Pensiwn?

Os cewch Gredyd Pensiwn gallwch hefyd gael help arall, fel:
• Y Taliad Tanwydd Gaeaf  (*Rhaid gwneud cais cyn 21 Rhagfyr)
• Help gyda chostau gwresogi drwy’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes a Thâl Tywydd Oer
• Budd-dal tai os ydych yn rhentu’r eiddo rydych chi’n byw ynddo
• Cymorth ar gyfer llog morgais os ydych yn berchen ar yr eiddo rydych chi’n byw ynddo
• Gostyngiad Treth Gyngor
• Trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu’n hŷn
• Help gyda thriniaeth ddeintyddol y GIG, sbectol a chostau trafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau ysbyty, os ydych chi’n cael math penodol o Gredyd Pensiwn
• Gostyngiad ar y gwasanaeth ailgyfeirio Post Brenhinol os ydych yn symud tŷ


Ydw i’n gymwys?

Rhaid i chi fyw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban ac wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, cyfrifir eich incwm. Os oes gennych bartner, mae eich incwm yn cael ei gyfrif gyda’i gilydd.
Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at:
• Eich incwm wythnosol i £218.15 os ydych yn sengl
• Eich incwm wythnosol ar y cyd i £332.95 os oes gennych bartner

Os yw’ch incwm yn uwch, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn os oes gennych anabledd, rydych yn gofalu am rywun, mae gennych gynilion neu mae gennych gostau tai.

 

Sut mae gwneud cais?

Gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn ar-lein yma
Gallwch hefyd ffonio’r llinell gais Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234

 

Pa wybodaeth sydd angen arnaf i wneud cais?

Bydd angen y wybodaeth ganlynol amdanoch chi a’ch partner os oes gennych un:
• Rhif Yswiriant Gwladol
• Gwybodaeth am unrhyw incwm, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych
• Gwybodaeth am eich incwm, eich cynilion a’ch buddsoddiadau ar y dyddiad rydych am ôl-ddyddio eich cais iddo (fel arfer 3 mis yn ôl neu’r dyddiad y gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os yw hyn yn gynt)
Bydd angen manylion eich cyfrif banc arnoch hefyd. Yn dibynnu ar sut rydych yn gwneud cais, efallai y gofynnir i chi hefyd am enw eich banc neu gymdeithas adeiladu, cod didoli a rhif cyfrif.

 

Sut mae gwybod mwy?

Mae mwy o wybodaeth am Gredyd Pensiwn yma

 

 

 

Cookie Settings