Paneli Solar Plygio i Mewn
Pwysig: Nid yw paneli solar plygio i mewn yn cael eu caniatáu mewn cartrefi Grŵp Cynefin ar hyn o bryd
Mae llawer ohonon ni yn chwilio am ffyrdd o leihau costau ynni a gwneud eu cartrefi’n fwy cynaliadwy. Mae’n galonogol gweld diddordeb cynyddol mewn technolegau newydd a allai helpu i arbed ynni a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Ond, am y tro, nid yw Grŵp Cynefin yn caniatáu defnyddio paneli solar plygio i mewn na systemau solar symudol mewn cartrefi.
Pam?
Mae paneli solar plygio i mewn yn dechnoleg gymharol newydd yn y DU. Ar hyn o bryd, does dim digon o dystiolaeth annibynnol ar gael i roi sicrwydd llawn ynghylch eu diogelwch a’u perfformiad hirdymor o’u cysylltu i system drydanol domestig.
Diogelwch ein tenantiaid a’n cartrefi yw ein blaenoriaeth bob amser. Mae pryderon yn parhau ynghylch rhai risgiau posibl sy’n gysylltiedig â’r systemau hyn, gan gynnwys:
- Sioc drydanol.
- Difrod i system drydanol y cartref.
- Gorlwytho neu ddiffygion trydanol.
- Risg uwch o dân.
- Materion diogelwch sy’n ymwneud â cheblau, addaswyr a lleoliad offer.
Fel landlord, mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod systemau trydanol ein cartrefi yn parhau’n ddiogel ac yn addas i’w defnyddio.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Ar hyn o bryd:
- Peidiwch â chysylltu paneli solar plygio i mewn na systemau solar symudol i system drydanol eich cartref.
- Mae hyn yn cynnwys unrhyw banel solar sydd wedi’i gynllunio i blygio’n uniongyrchol i soced drydanol safonol.
- Ni ddylid gosod na defnyddio’r systemau hyn yng nghartrefi Grŵp Cynefin.
Y dyfodol
Mi fyddwn yn parhau i fonitro cyngor gan y diwydiant, safonau cynnyrch a tystiolaeth diogelwch wrth i’r dechnoleg ddatblygu.
Os bydd tystiolaeth annibynnol a chlir yn dangos y gellir defnyddio’r systemau hyn yn ddiogel ac yn ddibynadwy mewn cartrefi fel ein rhai ni, byddwn yn adolygu ein safbwynt yn y dyfodol.
Diolch am weithio hefo ni i’n helpu i gadw ein cartrefi’n ddiogel i bawb. Os hoffech gael cyngor ar ffyrdd eraill o wella effeithlonrwydd ynni yn eich cartref, cysylltwch â ni.