Byddwch yn barod ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl
Dydyn ni byth yn gwybod pryd all toriad trydan, tywydd garw neu sefyllfa annisgwyl arall ddigwydd. Gall paratoi ychydig ymlaen llaw wneud gwahaniaeth mawr.
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch ‘Be Ready’ i helpu pobl i baratoi ar gyfer argyfwng. Y syniad yw paratoi at hyd at dri diwrnod, i roi tawelwch meddwl a’ch helpu chi a’ch teulu i ddelio efo’r sefyllfa os bydd tarfu ar wasanaethau dros dro.
Mae bod yn barod yn llawer haws na feddyliech. Mae’n bosib bod rhai o’r pethau sydd eu hangen arnoch eisoes yn eich tŷ, a does dim angen gwneud popeth ar unwaith. Gallwch baratoi fesul tipyn dros amser, gan ychwanegu ambell eitem ychwanegol wrth wneud eich siopa arferol.
I gael mwy o wybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol, ewch i: Be ready for emergencies – Be Ready