Newid i’ch Rhent a Thâl Gwasanaeth

Bydd rhai ohonoch yn gweld cynnydd rhent ym mis Hydref. Os hynny, byddwch yn cael llythyr yn fuan nodi beth fydd eich rhent a beth fydd eich tâl gwasanaeth o fis Hydref ymlaen. Bydd rhestr hefyd yn dangos beth mae’r tâl gwasanaeth yn ei dalu amdano.  

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y llythyr pan ddaw. Ac mae’n bwysig eich bod yn ei ddeall. Os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, cysylltwch hefo ni.  

Pethau defnyddiol eraill i’ch helpu 

Cyfrifiannell Budd-daliadau
Mae hon yn rhad ac am ddim ac ar gael yma: Benefits calculators – GOV.UK. Defnyddiwch hi i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl daliadau sydd ar gael i chi. Peidiwch a cholli allan – mae pob ceiniog yn help.  

Yswiriant Cynnwys Cartref
Mae’n bwysig bod pawb yn yswirio eich eiddo personol, eich cyfrifoldeb chi ydi hyn.
Mae’n cynnwys pethau fel dodrefn, dillad a phethau trydanol. Gall yswiriant helpu os oes tân, lladrad neu ddifrod. Does dim angen un drud – mae yswiriant cost isel ar gael i roi tawelwch meddwl i chi. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech help, cysylltwch hefo ni.
Rydyn ni yma i helpu. 

Cookie Settings