Cymryd Rhan – Sesiwn Llais a Brand

Mae Grŵp Cynefin yn gwneud darn o waith sy’n edrych ar ein llais a’n brand.
Ein llais – ydyn ni yn defnyddio gormod o jargon, geiriau anodd a steil gymhleth?
Ein brand – cyfle i fod y cyntaf i weld a rhoi barn ar newidiadau ffres i’n brand.
Bydd y sesiwn yma yn anffurfiol a chyfeillgar – dewch i’n helpu i gyfathrebu yn well!
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr
Amser: 10:30am – 1pm
Lleoliad: Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst, LL26 0PW
Diddordeb? I gofrestru cliciwch yma a dewiswch y Sesiwn Llais a Brand yn y rhestr ar y ffurflen Cymryd rhan, neu ffoniwch 0300 111 2122.