Cymryd Rhan
Ydych chi eisiau cyfle i ddweud eich dweud?
Rydych chi, ein tenantiaid, wrth galon popeth a wnawn – a rydym yma i wrando arnoch chi.
Rydym yn gwybod fod gennych safbwyntiau gwerthfawr i’w cyfrannu.
Gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut mae Grŵp Cynefin yn gwella a siapio eu gwasanaethau. Mae hyn yn golygu y gallwch chi fod yn rhan o wneud y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi, eich cartref a’ch cymuned.
Trwy gymryd rhan, rydych yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Byddwch hefyd yn
- Gwneud gwahaniaeth i fywydau tenantiaid
- Helpu ni i wella gwasanaethau
- Cyfarfod pobl newydd
- Gwella eich iechyd meddwl
- Datblygu sgiliau newydd neu hyd yn oed ennill cymwysterau os dymunwch
- Cynllunio a chyflawni prosiectau sy’n gwella’ch cymuned
Fyddech chi yn hoffi cymryd rhan? Cysylltwch â ni
Tîm Mentrau Cymunedol







