24 Maw 2026

Cryfhau’r Tîm Tai gydag arweinyddiaeth newydd a chynllun recriwtio

Mae Grŵp Cynefin wedi cyhoeddi newidiadau cyffrous o fewn ei Adran Tai, gyda phenodiadau arweinyddiaeth newydd a chamau i gryfhau’r tîm sy’n gyfrifol am gefnogi tenantiaid a chynnal tenantiaethau.  Mae Grŵp Cynefin yn berchen ar dros 5,000 o gartrefi, gyda mwy na 10,000 o denantiaid ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys.   Mae’r sefydliad wedi penodi Rhiannon Dafydd yn Bennaeth Tai newydd, gan ddod â ffocws clir ac egni ffres o gylch cefnogi tenantiaid, atal ôl-ddyledion a helpu pobl i gynnal cartrefi diogel a sefydlog. Yn ogystal â hyn, mae Awel Morris wedi camu i rôl o Arweinydd y Tîm Lles Ariannol, gan helpu i lunio dulliau effeithiol o gasglu incwm gan ganolbwyntio ar y person a chefnogi tenantiaethau.  Ar hyn o bryd mae Grŵp Cynefin hefyd yn recriwtio tri Swyddog Casglu Incwm i ymuno â’r tîm. Mae’r swyddi wedi’u lleoli yn swyddfeydd Grŵp Cynefin yn Y Bala, Dinbych a Phenygroes ger Caernarfon. Mae dwy swydd amser llawn ac un swydd rhan-amser ar gael.  Dywedodd Rhiannon Dafydd, Pennaeth […]

23 Maw 2026

Ymweliad i weld cynnydd cartrefi newydd Grŵp Cynefin yn Ninbych

Roedd cyfle heddiw (Dydd Llun, Mawrth 23) i Grŵp Cynefin arwain partneriaid o gylch safle fydd yn darparu 11 cartref carbon-isel yn nhref Dinbych. Bu prif swyddogion Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych, a’r contractwyr NWPS o’r Rhyl yn ymweld â datblygiad Stryd Henllan i weld y cynnydd ar y safle. Bydd y cynllun yn darparu […]

10 Chw 2026

Dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 drwy rannu profiadau prentisiaid Grŵp Cynefin   

Mae Grŵp Cynefin yn nodi Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 drwy rannu profiadau prentisiaid a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y maes tai.  Drwy gydol yr wythnos, bydd tîm Grŵp Cynefin yn ymweld â digwyddiadau ar draws gogledd Cymru i gwrdd â myfyrwyr, trafod llwybrau gyrfa ac amlygu rôl hanfodol prentisiaethau yn natblygiad […]

27 Ion 2026

Galw ar y pleidiau gwleidyddol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol

Mae cymdeithasau tai gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol sydd wedi cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, 27 Ionawr) yn y cyfnod yn arwain at etholiadau’r Senedd, yn galw am barhau i fuddsoddi yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r ymgyrch ‘Cartrefi; ar gyfer pob dyfodol’ gan Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw am gynllun […]

08 Ion 2026

Rhybuddion tywydd garw, Storm Goretti

Gyda Storm Goretti i ddod â gwyntoedd cryfion iawn, eira trwm a glaw, mae rhybudd melyn ac oren ar waith ar draws Gogledd Cymru. Mae’r rhybudd tywydd mewn lle o 5pm heddiw tan 12pm fory. Os ydych chi angen unrhyw gymorth brys, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122. Plîs byddwch yn amyneddgar gyda’n staff […]

07 Ion 2026

Grŵp Cynefin yn annog mwy o bobol i ddefnyddio beiciau yn y flwyddyn newydd

Gyda miloedd ohonom ni yn gwneud addunedau i fod yn iachach, gwneud mwy o ymarfer corff a byw yn fwy ‘gwyrdd’ yn 2026, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin hefyd yn gwneud ei rhan.  Bydd storfa beiciau newydd yn gwneud yn siŵr bod tenantiaid Grwp Cynefin ym Machynlleth yn gallu cadw eu beiciau yn ddiogel, gan […]

23 Rhag 2025

Trefniadau’r Nadolig

Hoffai Grŵp Cynefin ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n tenantiaid, cwsmeriaid, partneriaid a staff. Diolch am bob cydweithrediad trwy gydol y flwyddyn. Oriau agor a chau: Cau: 5pm Dydd Mercher 24 Rhagfyr Ail-agor: 9am Dydd Gwener 2 Ionawr Bydd gwasanaeth ‘allan o oriau’ cyfyngedig ar gael i gyfarch materion cynnal a chadw brys […]

18 Rhag 2025

Partneriaethau’n Cefnogi Cymunedau Cyn y Nadolig

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn cydweithio â chontractwyr lleol, y partneriaid sy’n cydweithio i adeiladu tai fforddiadwy i bobl leol, i gefnogi prosiectau cymunedol cyn y Nadolig. Bydd eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ar adeg heriol o’r flwyddyn.  Mae’r cyfraniadau yma’n rhan o ymrwymiad i greu gwerth cymdeithasol yn yr ardaloedd lleol fel rhan o gytundebau datblygu.   Cyfrannodd un o’r partneriaid, Gareth Morris Construction, tuag at Fanc Bwyd […]

15 Rhag 2025

Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Rhuthun yn Ennill Gwobr Rhagoriaeth Adeiladu Genedlaethol

Mae llwyddiant cynllun tai gofal ychwanegol cymdeithas tai Grwp Cynefin wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol yng Ngwobrau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Cymru 2025. Enillodd prosiect uchelgeisiol i adnewyddu ac ehangu cynllun tai gofal ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun wobr led-led Cymru gan dderbyn canmoliaeth uchel am ei safonau rhagorol. Mae’r wobr hon yn adlewyrchu dyluniad arloesol, ymrwymiad i ansawdd, ystyriaeth i amgylchedd a phobl a’r gwir ystyr o gydweithio oedd wrth galon y […]

09 Rhag 2025

Rhybuddion tywydd garw, Storm Bram

Gyda Storm Bram yn taro gyda glaw trwm, mae rhybudd melyn ar waith ar draws gogledd Cymru. Os ydych yn denant gyda Grŵp Cynefin ac mae angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122. I adrodd am waith trwsio nad yw’n fater brys, cysylltwch â ni yma. Rhifau defnyddiol: Mewn argyfwng: 999 Dim […]

Cookie Settings