Cydnabyddiaeth cenedlaethol i Grŵp Cynefin am gynnwys tenantiaid ac am fenter gymunedol yn Ninbych

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwaith yn rhoi tenantiaid wrth wraidd eu gwasanaethau, ac am fenter gymunedol gyffrous yn Ninbych. Mae seremoni  wobrwyo flynyddol TPAS, a gynhaliwyd eleni yng Nghaerdydd (17/06/26) , yn gwobrwyo arfer da ymysg cymdeithasau tai Cymru, yn benodol am gynnwys tenantiaid a chymunedau yn eu gwaith bob dydd ac o ran siapio eu gwasanaethau.  

Daeth y wobr gyntaf yng nghategori Cynnwys Tenantiaid Wrth Ddylunio neu Adolygu Gwasanaethau. Daeth y llwyddiant hwn o’u prosiect: ‘O Lais Tenantiaid i Benderfyniadau Gwell: Cyd-ddylunio a Gwella Gwasanaethau Retrofit Grŵp Cynefin’, lle mae llais tenantiaid wrth galon y gwaith o ddylunio a gwella gwasanaethau. Drwy wrando’n ofalus ar adborth ac ymateb iddo, caiff newidiadau ymarferol eu gwneud, sy’n gwella profiad tenantiaid o ddydd i ddydd. 

Daeth Grŵp Cynefin yn drydydd hefyd yn y categori Cymunedau’n Cefnogi Cymunedau am brosiect Bumps and Jumps yn Ninbych. Cafodd y prosiect, sy’n cynnig llwybr ‘pwmp’ diogel a chyffrous i bobl ifanc reidio beiciau, sglefyrddau, sgwteri a chadeiriau olwyn, ei gyflawni drwy bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, HWB Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Gwasanaethau Ieuenctid, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref Dinbych a thrigolion lleol.  

Dechreuodd y prosiect fel syniad gan bobl ifanc lleol oedd eisiau lle diogel i feicio, ac ers hynny mae wedi tyfu’n fenter lwyddiannus dan arweiniad pobl ifanc, gyda phobl 13–17 oed yn rhan o bob cam o’r dylunio a’r datblygu. Bu lleisiau’r bobl ifanc yn ganolog i’r broses o’r dechrau hyd at y diwedd. 

Dywedodd Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant Grŵp Cynefin:

‘Rydyn ni’n hynod falch o’r gydnabyddiaeth hon. Mae’n adlewyrchu gwaith caled ein timau, ein partneriaid, ein tenantiaid a’n cymunedau. Drwy wrando ar leisiau pobl a gweithio gyda’n gilydd, rydyn ni yn creu gwasanaethau gwell a chyfleoedd go iawn i bobl ifanc ffynnu.’ 

Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu ymroddiad Grŵp Cynefin i gydweithio â phartneriaid a chymunedau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

 

Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams neu Ffion Roberts, Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin: 

Cyfathrebu@grwpcynefin.org / 0300 111 2122 

Cookie Settings