Ymgysylltu gwych ar Wibdaith Grŵp Cynefin
Bu Grŵp Cynefin ar daith i ymgysylltu gyda thenantiaid ar draws cymunedau yng Ngwynedd ym Mai, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i wrando ac ymateb yn uniongyrchol.
Cafodd y daith ei chryfhau ymhellach drwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol yn ymuno â’r ymweliadau i ymgysylltu â phreswylwyr a chefnogi diogelwch cymunedol.
Yn ystod yr wythnos, ymwelodd timau â 18 stad ar draws Penrhyndeudraeth, Cricieth, Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, gan siarad yn uniongyrchol â thenantiaid a darparu cefnogaeth a gwybodaeth.
Dosbarthwyd mwy na 210 o becynnau gwybodaeth, gyda staff yn cynnal sgyrsiau ystyrlon gyda 75 o denantiaid. Hefyd, cofrestrwyd 25 tenant i dderbyn gohebiaeth gytundebol drwy e-bost, i gyfathrebu yn fwy effeithlon.
Mae adborth tenantiaid yn parhau’n ganolog i waith Grŵp Cynefin, gyda 40 o arolygon boddhad “Sut ydyn ni’n Perfformio?” wedi’u cwblhau yn ystod yr ymweliadau. Mae’r rhain yn cyfrannu at adroddiadau perfformiad allweddol i Lywodraeth Cymru.
Rhoddodd y daith gyfle hefyd i gysylltu tenantiaid â gwasanaethau cymorth hanfodol:
- 8 atgyfeiriad i’r Tîm Lles
- 10 atgyfeiriad at Wardeniaid Ynni
- 4 atgyfeiriad ar gyfer cymorth digidol
- 5 atgyfeiriad ar gyfer cymorth cyflogaeth a hyfforddiant
- 10 pecyn cynnes wedi’u dosbarthu i denantiaid mewn angen
Yn galonogol, dangosodd tenantiaid ddiddordeb cryf mewn siapio gwasanaethau’r dyfodol:
- 16 tenant newydd yn mynegi diddordeb i gymryd rhan gyda Grŵp Cynefin
- 5 tenant yn ymuno i gefnogi prosesau recriwtio
- 5 tenant yn ymuno â’r Panel Steil a Dylunio ar gyfer rhaglenni cynnal a chadw
Mae’r wybodaeth ariannol a gasglwyd yn dangos darlun cymysg, gyda’r mwyafrif yn ymdopi ond rhai’n wynebu heriau. Roedd cynnig o gefnogaeth ychwanegol i’r rhai hynny oedd yn teimlo eu bod angen. Nododd y rhai holwyd bod:
- 26% ‘yn byw’n gyfforddus’
- 34% ‘yn gwneud yn iawn’
- 31% ‘yn ymdopi’
- 9% ‘yn ei chael hi’n anodd’
Cefnogwyd y fenter gan 15 aelod o staff, tri aelod o Fwrdd Rheoli Grŵp Cynefin a thri PCSO lleol, gan bwysleisio dull cydweithredol y sefydliad.
Dywedodd Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant Grŵp Cynefin:
“Mae ein teithiau ymgysylltu bellach wedi hen sefydlu ac yn elfen werthfawr o galendr Grŵp Cynefin. Rydyn ni’n annog cydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad i gymryd rhan – maent yn cynnig cyfle gwych i ymgysylltu wyneb yn wyneb â thenantiaid, clywed eu pryderon yn uniongyrchol, a sicrhau bod ein gwasanaethau’n adlewyrchu anghenion go iawn ein cymunedau.
“Mae’r ymateb wedi bod yn wych, ac mae’n amlwg bod tenantiaid yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael eu lleisiau wedi’u clywed.”
Dywedodd Simon Barlow, Rhingyll yr Heddlu, Tîm Plismona Cymdogaeth De Gwynedd:
“Mae hwn wedi bod yn enghraifft ragorol o waith partneriaeth ac yn fenter hynod gadarnhaol. Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan ohoni. Mae cyfleoedd fel hyn i gysylltu, adeiladu perthnasau ac ymgysylltu’n uniongyrchol gyda chymunedau yn amhrisiadwy – maent yn cryfhau cydweithio ac yn gwneud gweithio ar y cyd yn llawer mwy effeithiol.”
Bydd Grŵp Cynefin yn parhau i adeiladu ar lwyddiant y digwyddiadau hyn, gan gryfhau cysylltiadau gyda thenantiaid a phartneriaid a sicrhau bod eu lleisiau wrth galon darpariaeth gwasanaethau.