Hoffech chi fyw ym Mae Trearddur, Môn?

Hoffech chi fyw ym Mae Trearddur, Môn?

Mae Grŵp Cynefin yn annog trigolion a’r rhai sydd â chysylltiad lleol  â Bae Trearddur a’r cymunedau cyfagos i gymryd rhan mewn holiadur newydd am anghenion tai. Maen nhw yn awyddus yn benodol i glywed gan bobol fyddai a diddordeb mewn byw yn yr ardal, trwy rentu neu brynu tŷ newydd petai rhai ar gael.   

Mae’r arolwg yn rhan o ymrwymiad parhaus Grŵp Cynefin i gefnogi cymunedau cynaliadwy a bywiog ledled gogledd Cymru. Trwy gasglu barn leol, mae’r gymdeithas dai yn gobeithio deall anghenion tai presennol a fydd yn ei dro yn llywio unrhyw cynlluniau  a datblygiadau posib ar gyfer yr ardal. 

“Mae hyn yn ymwneud â gwrando ar leisiau lleol,” meddai Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin.  

“Bydd yr holiadur yma yn ein helpu i ddeall beth mae pobl ei angen a ble gallwn wneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n clywed ar goedd bod pobl yn symud o’r ardal oherwydd nad ydyn nhw yn gallu fforddio rhentu neu brynu yn lleol, er eu bod o bosib wedi eu geni a’u magu yn yr ardal honno. Mae’n bwysig bod gwybodaeth ffeithiol gennym ni ynglŷn a’r galw am dai a pha fath o dai cyn edrych ar sut gallwn ni helpu, a mynd ati i gynllunio.”  

Mae’r holiadur ar agor i unrhyw un sydd â chysylltiad â Bae Trearddur, gan gynnwys y rhai sy’n byw, yn gweithio neu â theulu yn yr ardal. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd i’w gwblhau, a bydd yr holl ymatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol yn unol â GDPR y DU. 

Gallwch ei ateb yma: Holiadur Anghenion Tai Bae Trearddur

Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin 

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305 

Cookie Settings