Grŵp Cynefin yn Cefnogi Diwrnod Digartref y Byd
Ar Ddiwrnod Digartref y Byd (10 Hydref 2025), mae Grŵp Cynefin yn falch o rannu’r effaith gadarnhaol mae ei wasanaethau yn ei gael yn atal digartrefedd yng ngogledd Cymru.
Mae digartrefedd yn fater cymhleth sy’n gallu effeithio ar unrhyw un. Mae heddiw yn gyfle hanfodol i godi ymwybyddiaeth, meithrin dealltwriaeth, ac annog gweithredu ystyrlon. Mae Grŵp Cynefin yn gweithio’n agos gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys awdurdodau lleol, asiantau rheoli a darparwyr cefnogaeth, a gwasanaethau iechyd meddwl i ddarparu cymorth uniongyrchol i bobl ifanc ac unigolion agored i niwed sydd mewn perygl o ddigartrefedd.
Yn ôl ffigurau diweddar gan yr Amgueddfa Digartrefedd, bu farw 1,611 o bobl ddigartref yn y DU yn 2024, sef y nifer uchaf erioed a gofnodwyd. Mae hyn yn gynnydd o 9% o’i gymharu â 2023. Yng Nghymru, bu farw 90 o bobl ddigartref yn 2024, sy’n ostyngiad bach o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Un enghraifft o’r cymorth hanfodol hwn yw Yr Hafod, uned tai â chymorth sydd wedi bod yn gweithredu ers dros ddegawd yn HWB Dinbych, canolfan gymunedol Grŵp Cynefin. Mae’r Hafod yn cynnig chwe fflat hunangynhaliol o ansawdd uchel i bobl ifanc 16-25 oed sy’n wynebu digartrefedd, ynghyd â chymorth 24 awr. I nodi’r diwrnod, mae pobl ifanc sy’n gysylltiedig â’r Hafod wedi bod yn siopa gyda’i gilydd i greu pecynnau byrbryd i’w dosbarthu i bobl digartref yn y gymuned. Mae’r pecynnau hyn yn cynnwys cynheswyr dwylo, byrbrydau ac eitemau hawdd i’w coginio.
Mae’r cymorth a gynigir gan wasanaethau a phartneriaethau Grŵp Cynefin yn mynd y tu hwnt i ymdrin â sefyllfa o ddigartrefedd yn unig. Mae cefnogaeth ehangach yn cynnwys gweithio gyda’r cleientiaid i ddatblygu sgiliau bywyd, rheoli tenantiaeth, ac ymgysylltu ag addysg a chyflogaeth.
Meddai Sharon Morris, Cyfarwyddwr Cymdogaethau Grŵp Cynefin: “Heddiw, ar Ddiwrnod Digartref y Byd, rydyn ni yn cydnabod bod ddigartrefedd yn brofiad sy’n gallu bod yn hynod o ynysig ac anodd. Mae Grŵp Cynefin yn darparu nid yn unig lle diogel i fyw, ond cyfleoedd i ailadeiladu hyder, sgiliau a gobaith. Mae partneriaethau cryf a chefnogaeth bwrpasol yn gallu newid bywydau ac mae hynny’n ganolog i waith Grŵp Cynefin bob dydd.
“Mae’n ddiwrnod da i ddiolch i’n holl staff a phartneriaid sy’n ein galluogi i gynnig a chynnal gwasanaethau allweddol sy’n newid bywydau.”
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin
Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305