Pobl ifanc fu’n wynebu digartrefedd yn gwneud eu rhan ar Ddiwrnod Digartref y Byd

I nodi Diwrnod Digartref y Byd, mae grŵp o bobl ifanc sydd wedi elwa o wasanaethau digartrefedd Grŵp Cynefin eu hunain yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

Ar ôl trafod arwyddocâd y diwrnod gyda staff Grŵp Cynefin, awgrymodd y grŵp greu pecynnau byrbrydau i’w dosbarthu i’r rhai mewn angen.

Mae’r Hafod, sydd wedi’i leoli yng nghanolfan gymunedol Grŵp Cynefin, HWB Dinbych , yn cynnig lle diogel i bobl ifanc fyw tra’n eu helpu i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gyfleoedd addysg, gwirfoddoli a chyflogaeth, a pharatoi ar gyfer byw’n annibynnol. Mae’r Hafod yn rhan o Gorwel, gwasanaeth atal digartrefedd Grŵp Cynefin.

Cymerodd pobl ifanc Yr Hafod yr awenau, gan weithio gyda staff i gynllunio, siopa a chreu’r pecynnau. Nhw ddewisodd y cynnwys eu hunain, gan feddwl yn ofalus am yr hyn fyddai’n fwyaf defnyddiol ac yn rhoi cysur. Roedd yn enghraifft wych o empathi ar waith ac yn gyfle i adeiladu hyder, sgiliau cyllidebu, a gwaith tîm.

Rydyn ni yn Grŵp Cynefin mor falch o’u menter a’r galon maen nhw wedi ei ddangos – mae gweithredoedd bach caredig yn mynd yn bell 💫

Cookie Settings