Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol llwyddiannus a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol

Mae Grŵp Cynefin wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024–25, blwyddyn a welodd ddathlu deng mlynedd ers ei sefydlu, sefydlu tîm arweinyddiaeth newydd sbon a lansio cynllun corfforaethol newydd uchelgeisiol, Lle i Berthyn.

Mae’r adroddiad blynyddol bellach yn fyw ar y wefan, yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol llwyddiannus yr wythnos hon.

Mynychwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Galeri, Caernarfon, gan lu o denantiaid, Aelodau Bwrdd, partneriaid, rhanddeiliaid ac aelodau staff Grŵp Cynefin.

Croesawodd Cadeirydd Grŵp Cynefin, Tim Jones, siaradwr gwadd eleni, Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones. Wrth i’r ymgynghoriad ar Safonau’r Gymraeg ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ddod i ben yr wythnos hon, roedd yn amserol atgoffa o’r cyfle i arwain drwy esiampl ac i gydweithio â chymdeithasau tai eraill ynglŷn â’r safonau. Meddai’r Comisiynydd:

“Byddwn angen datblygu perthynas agosach dros y flwyddyn a’r cyfnod nesaf… Yr hyn ydyn ni am ei wneud ydi cynnal perthynas adeiladol gyda chyrff sy’n dod o dan Safonau’r Gymraeg… a’n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n gefnogol ac yn gyfeillgar.”

Atgyfnerthodd Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, Mel Evans, ymrwymiad y grŵp i’r iaith Gymraeg, a’n ymroddiad i  gadw tenantiaid a chwsmeriaid wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud. Dywedodd hefyd ei fod wrth ei fodd gyda nifer y tenantiaid a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Croesawodd hefyd gyhoeddi Adroddiad Blynyddol eleni.

“Mae ymrwymiad y sefydliad i’r iaith Gymraeg, diwylliant a dylunio gwasanaethau cynhwysol yn parhau i fod yn ganolog.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn drawsnewidiol gyda ffocws o’r newydd ar yr hyn sy’n fwyaf  pwysig fwyaf: darparu cartrefi o safon, cefnogi tenantiaid, adeiladu cymunedau sy’n ffynnu a chynnal a datblygu gweithlu gwych.”

Yn ei ragair i’r adroddiad, atega’r Cadeirydd Tim Jones bwysigrwydd y ffocws ar denantiaid a chwsmeriaid Grŵp Cynefin:

“Dydyn ni ddim yn gwrando yn unig – rydyn ni’n ymgorffori lleisiau ein tenantiaid ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud, o ddylunio gwasanaethau i gynllunio strategol a recriwtio. Mae wedi bod yn llwyddiant, a dyma’r ffordd ymlaen.

“Rwy’n eich gwahodd i archwilio’r adroddiad blynyddol hwn a dathlu ein cyflawniadau.”

Ymhlith yr uchafbwyntiau o’r Adroddiad Blynyddol mae:

  • Lleisiau tenantiaid: Lluniodd dros 500 o denantiaid, staff ac aelodau’r bwrdd y Cynllun Corfforaethol Lle i Berthyn trwy gyd-ddylunio ac ymgynghori.
  • Effaith Gymunedol: £1.66 miliwn mewn enillion ariannol wedi’u sicrhau i denantiaid.
  • Ymgysylltiad: Enillodd tîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin wobr ‘Llais Tenant’ TPAS Cymru a chyrhaeddodd restr fer Gwobrau Tai y Gogledd.
  • Datblygiadau Newydd: Cwblhau 35 o gartrefi newydd yn Llys Awelon, Rhuthun; 409 o gartrefi wedi’u dyrannu drwy Tai Teg; 487 o eiddo wedi’u huwchraddio drwy fuddsoddiad cyfalaf.
  • Trawsnewid Digidol: Lansio sgriniau cymunedol i wella mynediad at wasanaethau a gwybodaeth.
  • Buddsoddiad mewn Lles: Sicrhaodd HWB Dinbych gyllid aml-flwyddyn ar gyfer rhaglen lles newydd.

Ychwanegodd y Cadeirydd, Tim Jones: “Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu nid yn unig yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni, ond sut rydyn ni wedi ei gyflawni – trwy bartneriaeth, tryloywder, ac ymdeimlad cyffredin o bwrpas.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad blynyddol yma 

Cookie Settings