Grŵp Cynefin yn ehangu ei weithlu mewnol i sicrhau effeithlonrwydd

Mae Grŵp Cynefin yn gwneud camau breision  i sicrhau bod mwy o’i gartrefi ledled gogledd Cymru yn barod ar gyfer tenantiaid yn gynt. Fel rhan o’i ymrwymiad i ansawdd ac effaith gymunedol, mae’r sefydliad yn ehangu ei Weithly Mewnol (DLO), gan recriwtio mwy o grefftwyr medrus at eu weithlu cyfredol i gyflawni atgyweiriadau, adnewyddiadau a gwelliannau yn fwy effeithlon.

Bydd y datblygiad strategol hwn yn helpu i droi tai gwag yn gartrefi yn gyflymach, gwella boddhad tenantiaid, a sicrhau bod pob cartref yn adlewyrchu’r gwerthoedd y mae Grŵp Cynefin yn sefyll amdanyn nhw, sef darparu tai diogel ac effeithlon o safon yn ei gymunedau.

“Rydyn ni’n buddsoddi mewn pobl, o ran ymgyrch recriwtio fawr ar gyfer ein DLO sy’n ehangu, ac o ran ein tenantiaid a’n cwsmeriaid trwy fuddsoddi yn ansawdd hirdymor ein cartrefi,” meddai Siôn G Roberts, Cyfarwyddwr Eiddo a Buddsoddi Grŵp Cynefin.
“Trwy dyfu ein gweithlu mewnol, gallwn ymateb yn gyflymach, adeiladu perthnasoedd cryfach o fewn y gweithlu a’n partneriaid, a chyflawni gwaith sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i gartrefi o ansawdd uchel i’n cymunedau.”

Ar hyn o bryd mae Grŵp Cynefin yn recriwtio yn ardaloedd Wrecsam a Dinbych, gyda chyfleoedd i blymwyr, plastrwyr, peintwyr, addurnwyr a chrefftwyr aml-grefft ymuno â’i dîm sy’n ehangu.

Dyddiad  cau: Dydd Llun, 25 Awst 2025.  Mwy o wybodaeth yma:

Cookie Settings