Cryfhau’r Tîm Tai gydag arweinyddiaeth newydd a chynllun recriwtio

Mae Grŵp Cynefin wedi cyhoeddi newidiadau cyffrous o fewn ei Adran Tai, gyda phenodiadau arweinyddiaeth newydd a chamau i gryfhau’r tîm sy’n gyfrifol am gefnogi tenantiaid a chynnal tenantiaethau. 

Mae Grŵp Cynefin yn berchen ar dros 5,000 o gartrefi, gyda mwy na 10,000 o denantiaid ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys.  

Mae’r sefydliad wedi penodi Rhiannon Dafydd yn Bennaeth Tai newydd, gan ddod â ffocws clir ac egni ffres o gylch cefnogi tenantiaid, atal ôl-ddyledion a helpu pobl i gynnal cartrefi diogel a sefydlog. Yn ogystal â hyn, mae Awel Morris wedi camu i rôl o Arweinydd y Tîm Lles Ariannol, gan helpu i lunio dulliau effeithiol o gasglu incwm gan ganolbwyntio ar y person a chefnogi tenantiaethau. 

Ar hyn o bryd mae Grŵp Cynefin hefyd yn recriwtio tri Swyddog Casglu Incwm i ymuno â’r tîm. Mae’r swyddi wedi’u lleoli yn swyddfeydd Grŵp Cynefin yn Y Bala, Dinbych a Phenygroes ger Caernarfon. Mae dwy swydd amser llawn ac un swydd rhan-amser ar gael. 

Dywedodd Rhiannon Dafydd, Pennaeth Tai newydd Grŵp Cynefin: 

Rydw i’n falch iawn o gael y cyfle i barhau â’r gwaith rhagorol mae’r Adran Dai yn ei wneud wrth gefnogi ein tenantiaid. Mae’r tair rôl newydd hon yn allweddol wrth i ni edrych i gryfhau’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig. 

Mae’r rhain yn swyddi gwych yn lleol. Byddwn yn ystyried ymgeiswyr ar lefel mynediad – y peth pwysicaf yw sgiliau pobl. Gall Grŵp Cynefin ddarparu’r hyfforddiant. Rydyn ni’n chwilio am bobl empathetig fydd yn gweithio gyda chwsmeriaid a thenantiaid gyda charedigrwydd a pharch. Mae’r swyddi’n gwneud gwahaniaeth go iawn – maent yn cefnogi’r busnes tra’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. 

Dyletswyddau’r Swyddogion Casglu Incwm fydd: 

  • Gweithio gyda thenantiaid ar bob cam o’u tenantiaeth – newydd, presennol a blaenorol. 
  • Helpu i gynyddu incwm rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer Grŵp Cynefin. 
  • Darparu cyngor clir a chyfeillgar am rent, cyllidebu a chynlluniau talu. 
  • Helpu i atal ôl-ddyledion drwy gynnig cefnogaeth gynnar. 
  • Gweithio’n agos gyda’r tîm Tai ehangach i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon. 
  • Cefnogi cyfranogiad tenantiaid a helpu pobl i ymgysylltu â’u gwasanaeth tai. 

Mae’r rolau hyn yn hollbwysig i sicrhau bod tenantiaid yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gynnal eu cartrefi mewn cyfnodau ariannol heriol. Gyda hyfforddiant ar gael, mae’r swyddi yn gyfle delfrydol i unrhyw un sy’n dymuno cychwyn neu ddatblygu gyrfa ym maes tai, gwasanaethau cwsmeriaid neu waith cymunedol. 

Mae Grŵp Cynefin yn annog ceisiadau gan bobl sy’n bositif, yn drefnus, yn gyfathrebwyr da ac sydd â gwir eisiau helpu eraill. 

Dylai’r rhai sydd am wneud cais, wneud hynny yma. Swyddi gwag – Grŵp Cynefin.

Cookie Settings