Dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 drwy rannu profiadau prentisiaid Grŵp Cynefin
Mae Grŵp Cynefin yn nodi Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026 drwy rannu profiadau prentisiaid a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y maes tai.
Drwy gydol yr wythnos, bydd tîm Grŵp Cynefin yn ymweld â digwyddiadau ar draws gogledd Cymru i gwrdd â myfyrwyr, trafod llwybrau gyrfa ac amlygu rôl hanfodol prentisiaethau yn natblygiad y gweithlu.
Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan o ymrwymiad Grŵp Cynefin i gefnogi dysgwyr ac i annog mwy o bobl ifanc i ddewis llwybr sy’n cyfuno dysg a gwaith.
Mae Grŵp Cynefin hefyd yn rhannu profiadau rhai o’i brentisiaid presennol, gan dynnu sylw at y buddion gwirioneddol y gall prentisiaeth eu cynnig. Mae Mari Davies, prentis yn yr Adran Dai, yn egluro ei phrofiad:
“Dewisais y llwybr prentisiaeth yn hytrach na mynd i brifysgol am ei fod yn cyfuno’r ddau beth sy’n bwysig i mi: dysgu sgiliau proffesiynol ond hefyd gweithio’n uniongyrchol â phobl. Drwy fy mhrentisiaeth, rydw i’n dysgu amrywiaeth o sgiliau sy’n fy helpu i dyfu’n hyderus yn fy rôl.”
Mae David Jones, sy’n gweithio fel prentis yn Adran Pobl a Diwylliant, hefyd yn rhannu ei daith ddatblygu:
“O’r diwrnod cyntaf, rydw i wedi teimlo cefnogaeth anhygoel gan Grŵp Cynefin. Rydw i wedi dysgu sgiliau newydd sy’n fy helpu i greu llwybr llawer mwy hyderus i’r dyfodol.”
Mae Katy Baugh, sydd wedi gweithio i Grŵp Cynefin ers 13 o flynyddoedd, wedi ymgymryd â llwybr dysgu ychydig yn wahanol o fewn ei swydd fel Swyddog Cynnal a Chadw Ardal. Mae Katy yn astudio am Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Adeiladu trwy llwybr prentisiaeth uwch.
“Mae Tystysgrif Genedlaethol Uwch wedi fy helpu i wella fy nealltwriaeth dechnegol o adeiladau ac wedi rhoi mwy o hyder i mi wrth asesu ein heiddo. Mae’n deimlad da gallu rhoi’r hyn rwyf wedi’i ddysgu ar waith yn ystod fy swydd dydd i ddydd gyda Grŵp Cynefin.”
Dywed Elen Jones, Uwch Swyddog Dysgu a Datblygu Grŵp Cynefin:
“Mae’n wych gallu hyrwyddo’r hyn sydd gan Grŵp Cynefin i’w gynnig o ran prentisiaethau a gwaith. Gobeithio bydd y myfyrwyr yn mwynhau’r digwyddiadau a diolch hefyd i’n prentisiaid am rannu eu profiadau. Y gobaith yw y bydd rhannu profiadau prentisiaid yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o dalent i ymuno â Grŵp Cynefin a’r maes tai.”
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â cyfathrebu@grwpcynefin.org.