Trefniadau’r Nadolig
Hoffai Grŵp Cynefin ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n tenantiaid, cwsmeriaid, partneriaid a staff. Diolch am bob cydweithrediad trwy gydol y flwyddyn.
Oriau agor a chau:
Cau: 5pm Dydd Mercher 24 Rhagfyr
Ail-agor: 9am Dydd Gwener 2 Ionawr
Bydd gwasanaeth ‘allan o oriau’ cyfyngedig ar gael i gyfarch materion cynnal a chadw brys yn ystod y cyfnod yma trwy ffonio’r rhif arferol – 0300 1112122. Ni fydd cyfryngau eraill yn cael eu monitro.
Cofiwch gallwch dalu eich rhent drwy amrywiol ffyrdd dros y cyfnod – manylion yma
Byddwn yn dychwelyd atoch ynglŷn â materion llai o frys yn y flwyddyn newydd.
Mwynhewch Nadolig dedwydd a diogel.