Llwybr beics newydd, cyffrous yn agor yn Ninbych!

Mae adnodd beics newydd yn Ninbych wedi ei agor yn swyddogol gan Gill German AS.  Mae’r llwybr ‘pwmp’ ‘Bumps and Jumps’ newydd ym Maes Cae Hywel yn Ninbych, yn cynnig lle diogel a chyffrous i bobl ifanc reidio beiciau, sglefrfyrddau, sgwteri a chadeiriau olwyn. Gwireddwyd y prosiect gan dîm HWB Dinbych, canolfan gymunedol Grŵp Cynefin yn Ninbych, gyda phartneriaid allweddol yn cefnogi.  

Y rhuban yn cael ei dorri yn yr agoriad swyddogol, Cae Hywel, Dinbych

Dechreuodd y syniad pan soniodd dau fachgen lleol eu bod angen lle diogel i feicio. Ysbrydolodd y cais yma brosiect wedi ei arwain gan y bobl ifanc, gyda grŵp 13-17 oed o Ddinbych yn cymryd y llyw. Bu’r grŵp yn rhan o bob cam o’r prosiect, yn rhannu syniadau, arwain ymgynghoriadau, a chyfrannu at y dyluniad terfynol.  

Mae’r llwybr yn cynnwys adrannau i ddechreuwyr ac i’r rhai mwy profiadol, gyda thonnau a throadau sydd yn galluogi’r beicwyr i gynnal cyflymder drwy symudiad corff yn hytrach na phedalu. Mae wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch ac yn addas i bob lefel gallu. 


Cafodd y prosiect, a agorwyd yn swyddogol ddydd Gwener Hydref 24, ei gyflawni drwy bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, HWB Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Gwasanaethau Ieuenctid, Cyngor Sir a Chyngor Tref Dinbych, a thrigolion lleol. Bu lleisiau’r bobl ifanc yn ganolog i’r broses o’r dechrau hyd at y diwedd.
 

Dywedodd Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin sy’n berchen ac yn rheoli HWB Dinbych: 

“Mae hwn yn ganlyniad syniad gwych a ddechreuodd ar ôl sgwrs gyda dau fachgen lleol oedd eisiau lle diogel i feicio. Dyma beth all ddigwydd pan mae lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ac mae’r gefnogaeth gywir yn ei le.”

Dywedodd Gill German AS: 

“Roedd hi’n bleser mynychu agoriad swyddogol Bumps and Jumps a gweld canlyniadau haeddiannol y fenter a gwaith caled y bobl ifanc a arweiniodd hyn. Mae hwn yn waith partneriaeth ar waith ac yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn dod at ei gilydd. Rwy’n dymuno llawer o oriau hapus i bobl ifanc Dinbych yn y gofod cymunedol gwych hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Pauline Edwards o Gyngor Sir Ddinbych: 

“Mae hon yn enghraifft wych o sut gall gwrando ar y gymuned arwain at gyfleusterau newydd cyffrous sy’n dod â phobl ynghyd. Dylai’r bobl ifanc sydd wedi arwain y prosiect fod yn hynod falch,  mae eu penderfyniad wedi ysbrydoli’r gymuned gyfan.” 

Mae llwybr ‘Bumps and Jumps’ ar agor ac yn barod i’w ddefnyddio gan unrhyw un sy’n chwilio am antur ar eu holwynion! 

Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Ffion Roberts, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin 

Ffion.roberts@grwpcynefin.org / 0300 111 2122 

 

Cookie Settings