Agoriad Llwybr ‘Bumps and Jumps’ yn Ninbych
Mae llwybr pwmp newydd wedi agor yn swyddogol ar Faes Cae Hywel yn Ninbych, gan gynnig lle diogel a chyffrous i bobl ifanc reidio beiciau, sglefrfyrddau, sgwteri a chadair olwyn.
Dechreuodd y syniad gyda dau fachgen lleol oedd eisiau lle diogel i feicio. Daeth eu cais yn ysbrydoliaeth i ymgyrch dan arweiniad pobl ifanc, gyda grŵp o bobl ifanc 13–17 oed o Ddinbych Uchaf yn cymryd y llyw. Bu’r grŵp yn rhan o bob cam o’r prosiect, rhannu syniadau, arwain ymgynghoriadau, a chyfrannu at y dyluniad terfynol.
Dywedodd Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin:
“Ar ddydd Gwener fe wnaethom ddathlu agoriad swyddogol llwybr pwmp Bumps and Jumps ar Gae Hywel, Dinbych. Syniad gwych a ddechreuodd ar ôl sgwrs gyda dau fachgen lleol oedd eisiau lle diogel i feicio. Dyma beth all ddigwydd pan mae lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ac mae’r gefnogaeth gywir yn ei le.”
Mae’r llwybr yn cynnwys adrannau i ddechreuwyr ac i’r rhai mwy profiadol, gyda thonnau a throadau sydd yn galluogi’r beicwyr i gynnal cyflymder drwy symudiad corff yn hytrach na phadlo. Mae wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch ac yn addas i bob lefel gallu.
Cafodd y prosiect ei gyflawni drwy bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, HWB Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, a thrigolion lleol. Bu lleisiau’r bobl ifanc yn ganolog i’r broses o’r dechrau hyd at y diwedd.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol ar gyfer Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae hwn yn enghraifft wych o sut gall gwrando ar y gymuned arwain at gyfleusterau newydd cyffrous sy’n dod â phobl ynghyd. Dylai’r bobl ifanc sydd wedi arwain y prosiect fod yn hynod falch – mae eu penderfyniad wedi ysbrydoli’r gymuned gyfan.”
Diolch enfawr i bawb a helpodd i wireddu’r prosiect ar gyfer y grŵp brwdfrydig o bobl ifanc oedd yn awyddus i weld mwy o gyfleusterau beicio yn Ninbych. Bu’n brosiect cydweithredol gwirioneddol, gyda syniadau’r bobl ifanc wrth galon popeth a chefnogaeth iddynt bob cam o’r ffordd.
Mae llwybr ‘Bumps and Jumps’ bellach ar agor ac yn barod i’w ddefnyddio, yn ganlyniad parhaol i weithredu gan bobl ifanc a gwaith tîm cymunedol.