Agoriad swyddogol wedi gwaith £12.2 miliwn i ehangu cynllun tai pobol hŷn yn Rhuthun
Cafodd cynllun gofal tai ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun, Sir Ddinbych ei agoriad swyddogol heddiw, gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn bresennol.
Mae cynllun Grŵp Cynefin wedi’i uwchraddio ac ehangu drwy fuddsoddiad o £12.2 miliwn, ac erbyn hyn mae’n cynnig annibyniaeth i ragor o bobl hŷn yn Sir Ddinbych.
Yn ogystal ag adnewyddu’r adeilad blaenorol yn llwyr, mae’r prosiect ehangu tair blynedd wedi cynyddu nifer y cartrefi ar y safle o 21 i 56, gan gynnig cyfle i drigolion hŷn fyw’n annibynnol gyda’r sicrwydd bod gofal a chymorth ar y safle ar gael os oes ei angen.
Gyda £7.1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun bellach yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys gerddi, ardaloedd cymunedol, lle trin gwallt a bwyty. Mae’n adeiladu ar y gymuned groesawgar, fywiog a chefnogol sy’n gwneud Llys Awelon yn rhan werthfawr o’r gymuned ehangach.
Wrth groesawu trigolion, staff a llu o bartneriaid allweddol, dywedodd Cadeirydd Grŵp Cynefin, Tim Jones:
Dair blynedd yn ôl i ddoe, daeth ein partneriaid at ei gilydd ar y safle hwn ar gyfer seremoni torri tywarchen, gan nodi dechrau’r gwaith. A dyma ni heddiw – ar ddiwedd y prosiect adeiladu, ond ar ddechrau pennod newydd i Llys Awelon.
Mae’r prosiect hwn yn ganlyniad partneriaeth gref ac ystyrlon rhwng Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.
“Mae Reads Construction wedi arwain y gwaith adeiladu, ac wrth gwrs mae llawer o gwmnïau ac unigolion eraill wedi chwarae rhan hanfodol. Mae wedi bod yn daith gydweithredol ac adeiladol go iawn, ac rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.
“Rydym yn arbennig o falch ac wedi ein hanrhydeddu i groesawu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies. Mae’r gefnogaeth hon yn golygu llawer iawn i ni.”
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
Fel Comisiynydd Pobl Hŷn, mae pobl yn siarad â mi’n aml am bwysigrwydd cartref – nad adeilad yn unig mohono, ond lle rydyn ni’n teimlo’n ddiogel, lle mae cysur, lle mae cwmnïaeth. Lle rydyn am aros ac am fyw’n annibynnol – ac i mi, mae hynny’n hollbwysig. Ac o’r hyn rwyf wedi’i glywed a’i weld heddiw, dyna sut mae Llys Awelon yn teimlo – mae’n teimlo fel cartref.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae’n bleser bod yn Llys Awelon heddiw ar gyfer agoriad swyddogol yr adeilad arbennig hwn. Mae gofalu am anghenion ein poblogaeth hŷn yn un o flaenoriaethau’r Cyngor. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Grŵp Cynefin wedi ein galluogi i gyflawni’r nod o greu adeilad modern, cyfforddus a chroesawgar ar gyfer cymuned o drigolion lleol.”
Siaradodd un o’r trigolion, Cyril Jones, yn angerddol am y gymuned unigryw, gynnes a chefnogol sydd wrth galon Llys Awelon:
“Gofal, cysur, cwmnïaeth a chyfeillgarwch – mae’r rhain i gyd gen i yma, ac mae gen i rywbeth rydyn ni i gyd yn ei drysori – annibyniaeth. Mae gennyn ni allwedd i’n drws ffrynt – preifatrwydd, annibyniaeth, cysur a gofal.
“Mae gen i ddywediad bach: mae ddoe yn hanes, yfory yn dirgelwch, ac mae heddiw yn anrheg – a dyna pam rydyn ni yn ei alw’n ‘the present’. Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r anrheg yma rydyn ni yn ei fwynhau yma yn Llys Awelon.”
Cafodd y rhai a fynychodd, gan gynnwys trigolion, eu diddanu gan berfformiad gan ddisgyblion Ysgol Pen Barras, Rhuthun, sydd â pherthynas agos a gwerthfawr â chymuned Llys Awelon. Hefyd yn bresennol roedd cynrychiolwyr grwpiau cymunedol lleol a dderbyniodd grantiau drwy brosiect Llys Awelon, gan adlewyrchu effaith gadarnhaol ehangach y cynllun.
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin
Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305