Grŵp Cynefin yn recriwtio i ddarparu mwy o dai ynghynt i denantiaid
Mae Grŵp Cynefin yn gwneud cam sylweddol i ehangu ei dîm Gwasanaeth Cynnal a Chadw Mewnol (DLO), gyda 19 swydd cynnal a chadw newydd yn ogystal â thri chyfle cyffrous am brentisiaeth.
Bydd saith o’r swyddi wedi eu lleoli o fewn is-gwmnïau Grŵp Cynefin, gyda phum swydd gyda Canllaw, sydd yn gweithredu ar draws siroedd Gwynedd a Môn, a dwy swydd gyda Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych a Chonwy.
Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Grŵp Cynefin yn rhan o strategaeth ehangach i wella a chyflymu’r broses o addasu eiddo gwag yn barod i’w osod i denantiaid newydd.
Mae’r manteision i Grŵp Cynefin, ei denantiaid, a’r gymuned yn helaeth. Bydd y tîm DLO newydd yn cynnig mwy o reolaeth dros adnoddau, lleihau costau, a gwella gwasanaethau i denantiaid. Yn ogystal, bydd yn cryfhau’r berthynas rhwng Grŵp Cynefin a’r gymuned drwy gynnig swyddi a chyfleoedd hyfforddi i bobl leol.
Mae’r broses recriwtio wedi dechrau, gan ddarparu cyfleoedd newydd i weithwyr medrus a darpar weithwyr ifanc sydd am adeiladu gyrfa gadarn mewn sector allweddol sy’n ehangu.
Dywedodd Sion G Robert, Pennaeth Asedau a Datblygu yn Grŵp Cynefin:
“Mae creu’r tîm newydd hwn yn gam allweddol tuag at wella’r gwasanaethau a gynigir i’n cymunedau.
“Bydd yn ein galluogi i ymateb yn fwy effeithiol i anghenion ein tenantiaid, lleihau costau, a hyrwyddo cyfleoedd gwaith i bobl leol.
“Mae’r prentisiaethau yn cynnig cyfle ardderchog i weithwyr ifanc gael profiad uniongyrchol yn y maes ac adeiladu gyrfa mewn amgylchedd cefnogol.”
Bydd y tîm DLO newydd yn cryfhau gweledigaeth strategol Grŵp Cynefin o fod yn sefydliad cynhwysol ac effeithiol sy’n darparu cartrefi diogel, cynaliadwy o ansawdd.
Yn ogystal, bydd yn cynnig cyflogau cystadleuol, dilyniant gyrfa, ac amgylchedd gwaith cefnogol. Bydd prentisiaethau’n rhoi cyfle i weithwyr ifanc ddysgu sgiliau newydd, gwneud cysylltiadau defnyddiol a chael profiad gwerthfawr o fyd gwaith.
Mae recriwtio ar agor nawr a dylai unrhyw un sydd a diddordeb cliciwch yma i ddysgu mwy. Mae’n gyfle i fod yn rhan o dîm deinamig sy’n ehangu ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella gwasanaethau tai yn y gymuned.
Mae’r swyddi yma yn gyfle arbennig. Gwyliwch y fideo hwn i weld beth sydd gan Gwion Jones a Llion Jones i’w ddweud am y cyfleoedd swyddi newydd.