Prif Seremoni yn goron ar wythnos wych i Grŵp Cynefin

Prif Seremoni yn goron ar wythnos wych i Grŵp Cynefin

Ar ddiwrnod seremoni coroni Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022, mae Prif Weithredwr Grŵp Cynefin wedi mynegi ei balchder mai’r grŵp yw Prif Noddwr y seremoni heddiw (Dydd Gwener, Mehefin 3). Mae’r grŵp wedi cael wythnos wych gyda miloedd yn ymweld â’r uned ar y maes a llu o weithgareddau trwy’r wythnos, gan gynnwys lawnsio Strategaeth Cynaliadwyedd y cwmni a thrafodaeth ar dai fforddiadwy gyda Mabon ap Gwynfor AS.

Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

“Mae Grŵp Cynefin yn falch iawn o fod yn Brif Noddwr un o uchafbwyntiau’r ŵyl, sef seremoni’r Coroni heddiw. Mae Dinbych a’r ardal yn bwysig i Grŵp Cynefin. Mae un o’n prif swyddfeydd yng nghanol y dref, sef Tŷ John Glyn, a llawer o’n staff a chwsmeriaid yn byw yn yr ardal. Partneriaeth Grŵp Cynefin yw HWB Dinbych – canolfan allweddol bwysig yn cynnig bob math o gyrsiau, cynlluniau, cefnogaeth ac addysg i’r gymuned, yn arbennig pobl ifanc yr ardal.  Eleni agorwyd Awel y Dyffryn yn Ninbych – ein datblygiad tai gofal ychwanegol mwyaf hyd yn hyn, yn darparu cymuned gynnes a chefnogol i bobol hŷn y sir.

“Mae Grŵp Cynefin yn cynnig llawer ‘Mwy Na Thai’ – yn grantiau, partneriaethau, cefnogaeth, cyfleoedd, cyflogaeth ac mae cefnogi gŵyl mor ddeinamig ag Eisteddfod yr Urdd, ar ein stepen drws, yn bwysig iawn i ni.

“Mae ein staff wedi bod wrthi yn ddi-baid trwy’r wythnos yn croesawu pobl i’n uned, cynnal gweithgareddau a chysylltu a sgwrsio gyda thenantiaid a chwsmeriaid. Mae’n gyfle gwych i ddweud wrth bobol am yr oll rydyn ni yn ei wneud yn Grŵp Cynefin.”

Cookie Settings