Grŵp Cynefin yn eangu darpariaeth lletya ar gyfer pobol hŷn yn Sir Ddinbych

Grŵp Cynefin yn eangu darpariaeth lletya ar gyfer pobol hŷn yn Sir Ddinbych

Mae Grŵp Cynefin yn paratoi i ddechrau ar gynllun ehangu gwerth £12.2 miliwn i ddiweddaru ac ymestyn eu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Llys Awelon, Rhuthun.

Bydd y prosiect yn golygu ailddatblygu’r safle er mwyn creu cynllun modern, carbon isel pwrpasol i ddiwallu anghenion pobol hŷn yr ardal yn Sir Ddinbych. Mae Cynlluniau Tai Gofal Grŵp Cynefin yn cynnig  Annibyniaeth, Cymdogaeth a Chefnogaeth unigryw o fewn adeilad pwrpasol gyda fflatiau annibynnol ar gyfer y trigolion – pawb â’i ddrws ffrynt ei hun – ac ardaloedd cyffredin fel gerddi, lolfeydd, bwyty a lle trin gwallt. Mae’n cynnig cyfle gwych i bobl hŷn gael budd o ffordd annibynnol o fyw mewn cymuned ddiogel a chartrefol gyda chefnogaeth a gofal pan fyddant angen hynny.

Mae gan Grŵp Cynefin bum cynllun Tai Gofal Ychwanegol yng Nghaergybi, Y Bala, Porthmadog, Dinbych, a Rhuthun.

Yn Llys Awelon, Rhuthun, bydd y cynllun 21 o fflatiau presennol yn cynyddu o 35 fflat ychwanegol un a dwy ystafell wely ynghyd â chyfleusterau newydd sbon.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gefnogi gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Meddai Mel Evans, Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin:

“Rydyn ni yn hynod o falch o allu cyd-weithio mor rhwydd gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i allu cynnig gwasanaeth o’r un safon yn Llys Awelon, Rhuthun, a fydd yn adnodd modern, gwerthfawr i’r ardal.”

Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:

“Mae prosiectau o’r fath yn dod a rhinweddau gorau Grŵp Cynefin at ei gilydd – arbenigedd mewn Tai Gofal Ychwanegol a nodweddion canolog bwysig, arloesedd yn ein dulliau adeiladu gan ddefnyddio dulliau a thechnoleg i sicrhau carbon isel neu sero a’n gallu i ddod a phartneriaid at ei gilydd i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol er lles ein cymunedau.”

“Yn ogystal ag ymestyn y dewis o ddarpariaeth gofal a lletya i bobl hŷn yn ardal Rhuthun, bydd y cynllun yn helpu adfywio’r safle, gan fuddsoddi arian yn y dref a chymunedau cyfagos.”

Mae Grŵp Cynefin  yn…

  • Rheoli mwy na 4100 o unedau tai i’w rhentu ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys
  • Datblygu cartrefi o bob math mewn ymateb i anghenion lleol: ar gyfer teuluoedd, pobl sengl, pobl hyn a phersonau bregus ag anghenion cefnogaeth
  • Yn ychwanegol i’r unedau sydd yn cael eu rheoli, efo benthyciadau neu ecwiti mewn mwy na 800 o dai marchnad ganolraddol ar gyfer pobl sy’n methu prynu cartref addas ar y farchnad agored
Cookie Settings