Polisi Rheoli Cymdogaethau Da

Rydyn ni mewn cyfnod cyffrous o lansio polisi newydd – Polisi Rheoli Cymdogaethau Da.

Mae cynrychiolaeth tenantiaid wedi gweithio gyda staff dros y flwyddyn ddiwethaf i gyd-gynhyrchu’r polisi hwn. Crëwyd y polisi yn dilyn adroddiad gan yr Ombwdsmon Tai – ‘Amser i gael eich clywed’ – oedd yn nodi nad oedd pob ymddygiad na gweithred yn swyddogol ‘wrthgymdeithasol’.

Bwriad y polisi yw eich grymuso chi denantiaid i gael sgwrs gyda chymdogion pan fydd rhywbeth yn eu poeni.

Pecyn Cymorth Cymdogaeth Dda

Allwn ni ddim disgwyl i chi ddelio â materion sy’n eich poeni heb i ni roi’r offer i’ch helpu – felly rydyn ni wedi creu pecyn cymorth i denantiaid ei ddefnyddio a chyfeirio ato pan rydych eisiau codi rhywbeth gyda’ch cymydog – rhywbeth sydd yn methu cael ei ystyried fel ymddygiad ‘gwrthgymdeithasol’. Mae posib lawrlwytho’r pecyn cymorth o’r dudalen yma,

Cerdyn ‘Annwyl Gymydog’ 

Yn ogystal, mae Cerdyn ‘Annwyl Gymydog’ ar gael. Os na allwch siarad â rhywun – ysgrifennwch arno a’i basio ymlaen, neu bostio drwy’r blwch post.

Am gopi o’r polisi, cysylltwch â’ch Swyddog Tai.

 

Cookie Settings