Gwibdaith llwyddiannus i lansio ein Polisi Cymdogaeth dda

Yn gynharach y mis hwn, aeth staff ac aelodau bwrdd allan ar Wibdaith Grŵp Cynefin gynta’r flwyddyn!

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn wych cael mynd allan i’n cymunedau i lansio ein Polisi Cymdogaeth Dda newydd – cam allweddol i greu cymdogaethau mwy diogel, cryfach gyda chyswllt gwell.

Gyda’r haul yn disgleirio, aeth y wibdaith a ni ar draws gogledd Cymru dros bedwar diwrnod gan ymweld ag ystadau yn Ynys Môn, Gwynedd, Wrecsam, Sir Ddinbych a Chonwy

Dyma gipolwg o’r hyn a gyflawnwyd gyda’n gilydd

  • 🏘️ Visited 24 estates
  • 📦 349 o becynnau gwybodaeth wedi’u dosbarthu
  • 📝 96 o denantiaid cwblhau holiadur
  • 📇  75 o denantiaid wediu gwirio a diweddaru manylion cyswllt
  • 🤝 18 o atgyfeiriad i’n Tîm Lles
  • 🔌 15 atgyfeiriad at ein Wardeniaid Ynni
  • 💻 tenant wedi’u cyfeirio am Gymorth Digidol
  • 💼 4 atgyfeiriad ar gyfer Cymorth Cyflogaeth a Hyfforddiant
  • ❄️ 9 Pecyn Cynnes wedi’u dosbarthu i’r rhai mewn angen

Ond nid dyna’r cwbl – roedden ni wrth ein boddau yn gweld cymaint o denantiaid yn awyddus i gymryd rhan a lleisio eu barn ei ni eu clywed:

  • 👥 22 o denantiaid newydd hefo diddordeb mewn helpu gyda recriwtio
  • 📣 21 o denantiaid eisiau ymuno â’n Grŵp Bodlonrwydd a Chwynion newydd

Mae gwrando arnoch chi wrth wraidd pob dim wnawn ni. Mae’r wibdaith yn rhoi cyfle unigryw i ni gwrdd â chi wyneb yn wyneb, clywed eich straeon, a deall beth sy’n fwya’ pwysig i chi. Mae’r sgyrsiau yma yn ein helpu i adeiladu ymddiriedaeth, llunio gwell gwasanaethau, a sicrhau bod eich llais chi yn parhau i fod yn ganolog i’n gwaith.

Rydyn ni  hefyd yn falch o rannu bod Grŵp Cynefin wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Arfer Da TPAS Cymru am ein Gwibdeithiau Costau Byw 2024! Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar 25 Mehefin 2025. Llongyfarchiadau mawr i’n Tîm Mentrau Cymunedol am eu hymroddiad a’r perthnasoedd cryf maen nhw yn eu hadeiladu ar draws ein cymunedau.

Fe fyddwn ni allan ar y ffordd eto dros yr haf, cadwch lygad am wybodaeth am ein gwibdaith nesaf!

Cookie Settings