Newidiadau i fesuryddion trydan Economy 7 / Economy 10 / Option 14
Oes gennych chi fesurydd trydan Economy 7 / Economy 10 / Option 14?
Os oes, dim ond nodyn sydyn i roi gwybod i chi am newid sydd ar y gweill a allai effeithio eich costau trydan a gwresogi.
Mae gan 2.5% o dai yn y Deyrnas Unedig ddarllenydd trydan sydd yn gweithio oddi ar Wasanaeth Tele-switch Radio (RTS).
Ar 30 Mehefin 2025, bydd y Gwasanaeth Tele-switch Radio (RTS), sy’n helpu mesuryddion trydan i newid rhwng cyfraddau rhatach tu allan i oriau brig , yn cael ei ddiffodd.
Os oes gennych fesurydd trydan RTS (gweler y lluniau isod), mae’n bosibl y bydd eich biliau ynni’n cynyddu os nad yw’r mesurydd yn newid yn awtomatig fel o’r blaen. Gallech fod heb wres na dŵr poeth ar ôl y dyddiad yma os nad ydi’r darllenydd yn cael ei uwchraddio.
Fel eich landlord, rydyn ni yn eich cynghori i gysylltu hefo’ch cyflenwr ynni gyn gynted a phosib cyn y dyddiad diffodd, sef 30 Mehefin 2025.
Beth ddylech chi ei wneud?
Gwiriwch eich math o fesurydd – Os nad ydych yn siŵr a oes gennych fesurydd trydan RTS, rhowch alwad i’ch cyflenwr ynni. Gweler lluniau o ddarllenyddion sy’n cael eu heffeithio isod. Gofynnwch am fesurydd clyfar – Dylai’ch cyflenwr gynnig uwchraddio’r mesurydd am ddim, gan eich helpu arbed arian tu allan i oriau brig.
Angen cymorth?
Mi all newidiadau fel hyn fod yn ddryslyd, ond rydyn ni yma i helpu
Ffoniwch ni ar 0300 111 2122
E-bostiwch ar post@grwpcynefin.org
Cysylltu â ni – Grŵp Cynefin