Cyngor y Nadolig
Osgoi straen rhent y Nadolig
Gall cyfnod yr ŵyl fod yn amser prysur a drud i lawer ohonom, gyda phobl yn paratoi’n gynnar i sicrhau bod ganddynt ddigon o arian i dalu am yr anrhegion a’r partïon.
Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig sicrhau eich bod yn parhau i dalu eich rhent, er mwyn osgoi mynd i ddyled. Gall rhoi cynllun ar waith helpu i leddfu peth o’r straen sy’n gysylltiedig â chyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd a bydd yn eich helpu i reoli’ch cyllideb, gan gynnwys cronfa i dalu am daliadau debyd uniongyrchol – os mai dyma’r dull talu rydych wedi ei ddewis.
Mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol os oes newid i’ch trefn arferol o dalu ac os yw llefydd rydych yn talu, fel Paypoint, ar gau dros gyfnod y gwyliau.
Mae ein staff hefyd wrth law i’ch cynorthwyo gydol y flwyddyn i osgoi problemau wrth dalu rhent.
Rydym yn deall y rhwystrau sydd yn eich wynebu gyda chyllideb gyfyngedig ac rydym yn barod i helpu os bydd pethau’n ymddangos yn anodd. Cysylltwch â’ch swyddog tai, peidiwch ag anwybyddu ein hymdrech i gysylltu â chi. Gallwn gynnig cefnogaeth i wirio eich hawliau gan sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau rydych chi’n gymwys ar eu cyfer. Fel arall, defnyddiwch ein cyfrifiannell buddion yma
Mae’n hanfodol eich bod yn gweithredu’n gyflym ac yn ein hysbysu pan fydd trafferthion yn codi, oherwydd gellid cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os na allwn gysylltu â chi i drafod a chytuno sut rydych yn talu eich rhent.
Gall tenantiaid sydd mewn trafferthion ariannol eraill holi hefyd am gyngor a chefnogaeth trwy asiantaeth Cyngor ar Bopeth neu asiantaethau arbenigol eraill. Gall cynghorwyr arbenigol fel hyn eich helpu i gysylltu â’r cwmnïau yr ydych chi’n ddyledus iddynt: banciau, catalogau, cwmnïau benthyciadau, casglwyr stepen drws ac ati, a dylent allu mtrefnu i chi wneud taliadau llai nes byddwch yn ôl mewn trefn eto.
Felly, bob tro y byddwch chi’n siopa neu ar-lein, stopiwch a meddwl: “allai fforddio hwn?”, nid “ydw i eisiau ei brynu?” Nid yw eich ffrindiau na’ch teulu eisiau i chi fynd i ddyled wrth brynu gormod o fwyd neu anrhegion iddyn nhw ar gyfer y Nadolig.
Sicrhewch y bydd eich arian yn mynd cyn belled ag sy’n bosib. Chwiliwch am awgrymiadau am ffyrdd gwell o siopa ac am syniadau eraill o adnoddau dibynadwy, fel moneysavingexpert.com
Cynlluniwch ymlaen llaw nawr i sicrhau bod y Nadolig yn parhau i fod yn amser arbennig o’r flwyddyn, ac i osgoi mbod dyledion yn dod i lawr y simnai’r Nadolig hwn.
Tips gan y Tîm Lles a sut i arbed ynni ac arian dros y Nadolig
Mae staff Grŵp Cynefin yma i’ch cefnogi bob amser. Cymrwch olwg ar y ‘top tips’ yma gan ein tîm lles y Nadolig hwn i’ch helpu gyda’r cyfnod yma ac i geisio leihau’r straen.



Diogelwch Tân y Nadolig
Mae dathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn gyfle i gael hwyl gyda theulu a ffrindiau, felly dilynwch ein cynghorion diogelwch tân syml er mwyn cadw pawb yn ddiogel i gael mwynhau miri’r ŵyl.
