23 Rhag 2025
Oriau agor a chau dros y Nadolig
Hoffai Grŵp Cynefin ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n tenantiaid, cwsmeriaid, partneriaid a staff a diolch am bob cydweithrediad trwy gydol y flwyddyn. Oriau agor a chau: Cau: 5pm Dydd Mercher 24 Rhagfyr Ail-agor: 9am Dydd Gwener 2 Ionawr Bydd gwasanaeth ‘allan o oriau’ cyfyngedig ar gael i gyfarch materion cynnal a chadw brys yn ystod y cyfnod yma trwy ffonio’r rhif arferol – 0300 1112122. Ni fydd cyfryngau eraill yn cael eu monitro. Cofiwch gallwch dalu eich rhent drwy amrywiol ffyrdd dros y cyfnod – manylion yma Talu rhent a materion ariannol – Grŵp Cynefin. Byddwn yn dychwelyd atoch ynglŷn â materion llai o frys yn y flwyddyn newydd. Mwynhewch Nadolig dedwydd a diogel.