Ydy eich cartref wedi’i ddiogelu?
Fel tenant, chi sy’n gyfrifol am yswirio cynnwys eich tŷ, fel dodrefn, dillad, carpedi ac offer trydanol. Gall yswiriant cynnwys tŷ helpu os bydd eich pethau’n cael eu difrodi, eu colli neu eu dwyn.
Mae Grŵp Cynefin wedi partneru gyda Thistle Tenant Risks i gynnig cynllun Yswiriant Cynnwys My Home, sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.
Gallwch ffonio, mynd ar eu gwefan neu gofynnwch i’ch Swyddog Tai am fwy o wybodaeth.
0345 450 7288
Mae telerau ac amodau yn berthnasol. Mae darparwyr yswiriant eraill ar gael hefyd.