Grŵp Cynefin yn croesawu Nia Hughes fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau

Mae Grŵp Cynefin yn croesawu Nia Hughes wrth iddi ddechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau. Mae’n nodi pennod newydd i Nia, sy’n dod â phrofiad helaeth o uwch arweinyddiaeth yn y sector tai i’r swydd hon.  

Yn gyfrifydd siartredig, bu Nia yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn Muir Group Housing Association. Mae ei harbenigedd yn cwmpasu cyllid, llywodraethu ac arweinyddiaeth strategol.  

Mae Nia eisoes yn adnabod Grŵp Cynefin drwy ei gwasanaeth blaenorol fel aelod o’r Bwrdd  Rheoli. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Fwrdd ClwydAlyn, gan ychwanegu at ei phrofiad o lywodraethu yn y sector tai.  

Gyda chynllun busnes 30 mlynedd a chynnydd ail flwyddyn o gynllun corfforaethol Lle i Berthyn, mae Grŵp Cynefin mewn sefyllfa gref i gefnogi tenantiaid a datblygu tai fforddiadwy ar gyfer ei gymunedau ar draws Gogledd Cymru a gogledd Powys.  

Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:  

“Mae’n bleser croesawu Nia i Grŵp Cynefin. Mae ei harbenigedd ariannol, ei phrofiad o lywodraethu a’i dealltwriaeth o’r sector tai yn gyfuniad gwerthfawr i’r rôl.  

“Mae rheoli ein cyllid a’n hadnoddau’n gyfrifol yn ganolog i’n gwaith dros denantiaid a chymunedau, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Nia wrth iddi ddod â’i phrofiad a dealltwriaeth eang i’r tîm.”  

Meddai Nia Hughes, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau:  

“Rwy’n falch iawn o ddechrau gyda Grŵp Cynefin ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i gefnogi tenantiaid a’n cymunedau. Mi fydda i yn cyfrannu fy mhrofiad ym maes cyllid a llywodraethu at reoli ein hadnoddau’n gyfrifol, gan ein helpu i gryfhau gwasanaethau a datblygu cartrefi fforddiadwy sy’n diwallu anghenion ein cymunedau yn ein ardal weithredu.”   

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Mari Williams  

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin  

Mari.Williams@grwpcynefin.org  

Cookie Settings