Paneli Solar Plygio i Mewn

Pwysig: Nid yw paneli solar plygio i mewn yn cael eu caniatáu mewn cartrefi Grŵp Cynefin ar hyn o bryd 

Mae llawer ohonon ni yn chwilio am ffyrdd o leihau costau ynni a gwneud eu cartrefi’n fwy cynaliadwy. Mae’n galonogol gweld diddordeb cynyddol mewn technolegau newydd a allai helpu i arbed ynni a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. 

Ond, am y tro, nid yw Grŵp Cynefin yn caniatáu defnyddio paneli solar plygio i mewn na systemau solar symudol mewn cartrefi. 

Pam? 

Mae paneli solar plygio i mewn yn dechnoleg gymharol newydd yn y DU. Ar hyn o bryd, does dim digon o dystiolaeth annibynnol ar gael i roi sicrwydd llawn ynghylch eu diogelwch a’u perfformiad hirdymor o’u cysylltu i system drydanol domestig. 

Diogelwch ein tenantiaid a’n cartrefi yw ein blaenoriaeth bob amser. Mae pryderon yn parhau ynghylch rhai risgiau posibl sy’n gysylltiedig â’r systemau hyn, gan gynnwys: 

  • Sioc drydanol. 
  • Difrod i system drydanol y cartref. 
  • Gorlwytho neu ddiffygion trydanol. 
  • Risg uwch o dân. 
  • Materion diogelwch sy’n ymwneud â cheblau, addaswyr a lleoliad offer. 

Fel landlord, mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod systemau trydanol ein cartrefi yn parhau’n ddiogel ac yn addas i’w defnyddio. 

Beth mae hyn yn ei olygu i chi? 

Ar hyn o bryd: 

  • Peidiwch â chysylltu paneli solar plygio i mewn na systemau solar symudol i system drydanol eich cartref. 
  • Mae hyn yn cynnwys unrhyw banel solar sydd wedi’i gynllunio i blygio’n uniongyrchol i soced drydanol safonol. 
  • Ni ddylid gosod na defnyddio’r systemau hyn yng nghartrefi Grŵp Cynefin. 

Y dyfodol 

Mi fyddwn yn parhau i fonitro cyngor gan y diwydiant, safonau cynnyrch a tystiolaeth diogelwch wrth i’r dechnoleg ddatblygu. 

Os bydd tystiolaeth annibynnol a chlir yn dangos y gellir defnyddio’r systemau hyn yn ddiogel ac yn ddibynadwy mewn cartrefi fel ein rhai ni, byddwn yn adolygu ein safbwynt yn y dyfodol. 

Diolch am weithio hefo ni i’n helpu i gadw ein cartrefi’n ddiogel i bawb. Os hoffech gael cyngor ar ffyrdd eraill o wella effeithlonrwydd ynni yn eich cartref, cysylltwch â ni. 

Cookie Settings