Grŵp Cynefin wedi’i ryddhau o’i Ymrwymiad Gwirfoddol
Mae Grŵp Cynefin wedi croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ei fod wedi cael ei ryddhau o’i Ymrwymiad Gwirfoddol.
Ymrwymwyd i hwn yn 2023 wedi i Grŵp Cynefin gyfeirio ei hun at y rheoleiddiwr tai ynghylch materion cydymffurfio â data.
Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu’r cynnydd sylweddol a wnaed i gryfhau trefniadau llywodraethu, sicrwydd, cydymffurfio, rheoli asedau a chynllunio ariannol.
Drwy gydol y broses, bu Grŵp Cynefin yn gweithio’n agos gyda’r Rheoleiddiwr, gan ymgymryd â rhaglen wella gynhwysfawr a luniwyd i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd ac i gryfhau’r sefydliad ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:
“Rydw i’n falch iawn o gadarnhau bod Grŵp Cynefin wedi cael ei ryddhau o’i Ymrwymiad Gwirfoddol gan y Rheoleiddiwr. Mae hon yn garreg filltir bwysig i’r sefydliad, ac mae’n adlewyrchu’r cynnydd a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.
“Hoffwn ddiolch i gydweithwyr, Aelodau’r Bwrdd a phartneriaid am eu hymrwymiad, eu cefnogaeth a’u gwaith caled drwy gydol y daith hon. Gallwn bellach edrych ymlaen yn hyderus wrth i ni barhau i gyflawni ar gyfer ein tenantiaid, ein cwsmeriaid a’n cymunedau.”
Bydd Grŵp Cynefin yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu cartrefi a gwasanaethau o ansawdd uchel, buddsoddi mewn cymunedau a sicrhau bod tenantiaid a chwsmeriaid yn parhau i fod wrth galon popeth a wnawn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Adran Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin cyfathrebu@grwpcynefin.org