Ymweliad i weld cynnydd cartrefi newydd Grŵp Cynefin yn Ninbych
Roedd cyfle heddiw (Dydd Llun, Mawrth 23) i Grŵp Cynefin arwain partneriaid o gylch safle fydd yn darparu 11 cartref carbon-isel yn nhref Dinbych.
Bu prif swyddogion Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych, a’r contractwyr NWPS o’r Rhyl yn ymweld â datblygiad Stryd Henllan i weld y cynnydd ar y safle.
Bydd y cynllun yn darparu 11 o gartrefi ar rent cymdeithasol, ac yn gyfuniad o dai a fflatiau modern, carbon-isel, â nodweddion ynni-effeithlon gan gynnwys paneli solar PV, fframiau pren a phympiau gwres ffynhonnell aer. Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddod i ben dros yr haf, gyda’r cartrefi’n barod i’w gosod i denantiaid Grŵp Cynefin ym mis Medi 2026.
Dywedodd Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, fod y cynllun yn gam pwysig wrth ymateb i anghenion tai lleol:
“Mae datblygiad Stryd Henllan yn ateb y galw am gartrefi fforddiadwy, o ansawdd, yn yr ardal. Trwy weithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n falch y byddwn ni’n gallu darparu cartrefi cynaliadwy sy’n galluogi pobl leol i aros yn eu cymunedau.
“Mae cefnogi cymunedau Cymru yn flaenoriaeth i ni fel Grŵp Cynefin, a diwallu hawl sylfaenol pobl i gartrefi cynnes, diogel o safon.”
Dywedodd Helen White, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae’r tai newydd ar Stryd Henllan yn adlewyrchu penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i barhau i gynyddu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy, ynni‑ effeithlon ac o safon uchel ledled y sir. Mae ein gwaith strategol ym maes tai, gan gynnwys cydweithio â phartneriaid allweddol fel Grŵp Cynefin, yn ein helpu i sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion preswylwyr Sir Ddinbych heddiw ac yn cynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.”
Os oes unrhyw un sydd â diddordeb mewn byw yn un o’r cartrefi newydd, gofalwch eich bod ar Gofrestr Tai Sir Ddinbych. Mae mwy o fanylion yma: Cartrefi i’w rhentu – Sir Ddinbych – Grŵp Cynefin
Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams neu Ffion Roberts, Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin:
Cyfathrebu@grwpcynefin.org / 0300 111 2122