Be’ sy’n mynd ymlaen ar ein safleoedd adeiladu?

Dyma gipolwg cyffrous ar rai o’n datblygiadau mwyaf newydd, sy’n dod at ei gilydd ac yn barod i groesawu trigolion newydd dros y misoedd nesaf.

Nefyn

Rydyn ni ar hyn o bryd yn adeiladu 14 o gartrefi newydd yn Nefyn. Disgwylir i’r cartrefi fod yn barod i denantiaid erbyn Hydref 2026. Os oes gennych ddiddordeb mewn byw yma, cofiwch sicrhau eich bod ar Gofrestr Tai Gwynedd. Ar gyfer y cartrefi rhent canolraddol, cysylltwch â Tai Teg

 

 

Dinbych

Rydyn ni’n adeiladu 11 o fflatiau a thai ar Heol Henllan, Dinbych, a fydd yn barod i denantiaid erbyn Medi 2026.  Os oes gennych ddiddordeb mewn byw yma, cofiwch sicrhau eich bod wedi cofrestru ar Gofrestr Tai Sir Ddinbych.

 

 

 

 

Betws-y-Coed

Mae pump o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn Betws-y-Coed, rhai ar rent cymdeithasol a rhai ar rent canolraddol. Disgwylir i’r cartrefi fod yn barod i denantiaid symud i fyw iddyn nhw erbyn Medi 2026. Os oes gennych ddiddordeb mewn byw yma, cofiwch sicrhau eich bod ar Gofrestr Tai Sir Conwy Ar gyfer y cartrefi rhent canolraddol, cysylltwch â Tai Teg

Cookie Settings