Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Rhuthun yn Ennill Gwobr Rhagoriaeth Adeiladu Genedlaethol

Mae llwyddiant cynllun tai gofal ychwanegol cymdeithas tai Grwp Cynefin wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol yng Ngwobrau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Cymru 2025.

Enillodd prosiect uchelgeisiol i adnewyddu ac ehangu cynllun tai gofal ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun wobr led-led Cymru gan dderbyn canmoliaeth uchel am ei safonau rhagorol. Mae’r wobr hon yn adlewyrchu dyluniad arloesol, ymrwymiad i ansawdd, ystyriaeth i amgylchedd a phobl a’r gwir ystyr o gydweithio oedd wrth galon y prosiect.

Roedd yn gynllun trawsnewid gwerth £12.2 miliwn , gan gynnig mwy o gartrefi modern i bobl hŷn sydd am fyw’n annibynnol mewn cymuned ofalgar a bywiog. Bellach, mae Llys Awelon wedi ehangu o 21 i 56 o fflatiau cyfoes, gan gyfuno annibyniaeth â gofal a chymorth ar y safle.

Mae hefyd yn adlewyrchiad o bartneriaeth a chyd-weithio llwyddiannus rhwng Grŵp Cynefin, yr adeiladwyr, Read Construction, Cyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru ac eraill.

Meddai Mel Evans, Prif Weithredwr Grwp Cynefin:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod y datblygiad hwn bellach wedi’i gwblhau ac yn fwy cyffrous byth bod y tenantiaid wedi ymgartrefu mor hapus yn eu cartrefi newydd.

“Mae cael cydnabyddiaeth o’r fath trwy’r wobr LABC Cymru hon yn fraint gwirioneddol ac yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad pawb. Roedd ystyriaethau cymhleth, gan bod angen gwaith dymchwel ac adeiladu ar safle oedd yn cynnwys yr adeilad blaenorol, gyda’r tenantiaid a staff yn byw yno o ddydd i ddydd.

“Hoffwn ddiolch o waelod calon I’r tenantiaid a staff hynny,  croesawu’r tenantiaid newydd ac wrth gwrs longyfarch pawb sydd wedi cyfrannu at ennill y wobr hon. Dymuniadau da wrth fynd ymlaen i wobrau’r DU.”

Cafodd y prosiect tair blynedd ei ariannu’n rhannol gan £7.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac fe’i cefnogwyd gan Gyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction: “Mae Read yn falch o fod wedi chwarae rhan allweddol i gyflawni’r cynllun buddugol hwn. Roedd gweithio ar safle lle’r oedd pobl yn byw ynddo, yn gofyn am gydlynu tynn a rheolaeth safle ddisgybledig, ac fe gododd ein tîm safle a’n cadwyn gyflenwi i’r her. Mae’r wobr hon yn dyst i gydweithio gwirioneddol i greu datblygiad modern a chynaliadwy sy’n diwallu anghenion y gymuned.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth hon sydd wedi cael ei chydnabod am y cynllun tai gofal ychwanegol rhagorol hwn, sy’n darparu cymuned fodern hyfryd i gefnogi byw’n annibynnol i drigolion hŷn.”

“Un o’n prif flaenoriaethau yw gofalu am anghenion ein poblogaeth hŷn. Mae gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin wedi ein galluogi i gyflawni’r nod o greu adeilad modern, cyfforddus a chroesawgar ar gyfer cymuned o drigolion lleol, ac mae’n wych bod hyn wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.”

Fel enillydd Cymru, bydd Llys Awelon yn cystadlu am wobr y DU mewn seremoni LABC yn Llundain ar 23 Ionawr 2026.

Mae Grŵp Cynefin, sy’n berchen ac yn rheoli Llys Awelon, yn gymdeithas dai sy’n adeiladu ac yn creu cartrefi tra’n cefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau. Mae’r cwmni yn berchen ac yn rheoli mwy na 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, gan weithredu ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut i wneud cais am fflat yn Llys Awelon gysylltu â Grŵp Cynefin ar post@grwpcynefin.org neu 0300 111 212. Mae mwy o wybodaeth am Llys Awelon a chynlluniau Tai Gofal Ychwanegol eraill Grŵp Cynefin ar gael yma: Tai gofal ychwanegol – Grŵp Cynefin

Cookie Settings