Apêl i bobol lenwi holiadur i sefydlu anghenion tai Bae Trearddur
Mae Grŵp Cynefin yn apelio ar i bobol lenwi holiadur i geisio sefydlu beth ydi’r angen am dai yn ardal Bae Treaddur, Ynys Môn.
Mae’r argyfwng tai presennol yn golygu bod prisiau tai allan o gyrraedd llawer. O ganlyniad mae llawer o bobl yn cael eu gorfodi i adael yr ardaloedd lle magwyd nhw, er eu bod yn dymuno byw ynddyn nhw a magu teuluoedd eu hunain yma. Mae hyn yn bygwth dyfodol cymunedau fel Bae Treaddur. Ond mae Grŵp Cynefin yn benderfynol o wneud gwahaniaeth.
Gallai ymateb cryf i holiadur newydd fod yn sail ar gyfer newid. Ar hyn o bryd, mae Grŵp Cynefin, sy’n berchen ar dros 5,0000 eiddo ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys, yn cynnal arolwg o anghenion tai yn ardal Bae Trearddur a’r pentrefi cyfagos.
Maen nhw angen gweld pa fath o gartrefi mae pobl eu hangen yn yr ardal, i’w rhentu neu eu prynu. Bydd y wybodaeth bwysig hon yn darparu sail i gynllunio datblygiad ar gyfer yr ardal sy’n wir adlewyrchiad o anghenion y gymuned.
Mae hyn yn rhan o genhadaeth ehangach Grŵp Cynefin i gynnal cymunedau bywiog a chynaliadwy, a sicrhau bod pobl leol yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau gwledig.
Pam mae hyn mor bwysig yn ardal Bae Treaddur?
- Mae prisiau tai uchel ac ail gartrefi yn ei gwneud yn anodd i bobl leol allu prynu neu rentu cartrefi yn eu hardal.
- Mae colli pobl leol yn golygu colli ysgolion, gwasanaethau a bywyd cymunedol.
- Trwy gasglu gwybodaeth a thystiolaeth, gall Grŵp Cynefin gynllunio i adeiladu cartrefi sy’n cadw cymunedau’n fyw ac yn gryf.
“Gwrando ar leisiau lleol ydi craidd ein cynllunio ni yn Grŵp Cynefin,” meddai Arwyn Evans, Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin. “Mae angen gwybodaeth glir am anghenion tai gan yr union bobol hynny sydd eu hangen. Wedi mi allwn ni fel cymdeithas dai fynd ati i gydweithio hefo’n holl bartneriaid gan gynllunion ar gyfer adeiladu cartrefi a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau a chymunedau.”
Pwy ddylai lenwi’r holiadur ?
Unrhyw un sydd â chysylltiad â’r ardaloedd isod (hyd yn oed os ydych wedi symud o’r ardal ond yn dymuno dychwelyd):
- Trearddur
- Caergybi
- Y Fali
- Rhoscolyn
- Llanfair-yn-Neubwll
- Llanfaethlu
- Bodedern
Pam llenwi’r holiadur?
- Bydd eich barn yn siapio dyfodol tai yn eich ardal.
- Bydd yn helpu i sicrhau bod pobl leol yn cael cyfle teg i fyw yn eu cymuned.
- Bydd yn cyfrannu at gynlluniau sy’n cefnogi economi leol a gwasanaethau hanfodol.
Sut mae llenwi’r holiadur?
Cwblhewch yr holiadur yma:
https://forms.office.com/e/UkbyMh826j
Fel arall, os hoffech lenwi’r holiadur dros y ffôn, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122.
Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd, ac mae’r holl atebion yn gyfrinachol ac yn dilyn deddfau GDPR y DU.
Am ragor o wybodaeth neu geisiadau am gyfweliad, cysylltwch â:
Ffion Roberts, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata, Grŵp Cynefin
Ffion.roberts@grwpcynefin.org / 0300 111 2122