Diwrnod Agored i ddangos cymuned gynnes, groesawgar ac annibynnol Awel y Coleg, Y Bala
Mae Grŵp Cynefin yn gwahodd pobl leol i ddod i brofi’r gymuned gynnes a bywiog a gweld y cartrefi sydd ar gael yn Awel y Coleg, Y Bala, drostynt eu hunain. Mae croeso i bawb i Brynhawn Agored arbennig ddydd Mercher, 12 Tachwedd, rhwng 3-6pm.
Mae Awel y Coleg yn un o gynlluniau tai gofal ychwanegol blaenllaw Grŵp Cynefin – sy’n cynnig fflatiau un a dwy ystafell wely hunangynhwysol o ansawdd uchel gyda’r sicrwydd y bydd gofal ar gael os byddai angen unrhyw bryd.
Mae trigolion yn mwynhau’r rhyddid o fyw’n hollol annibynnol, gyda’u drws ffrynt eu hunain, parcio, a mynediad i gyfleusterau cymunedol rhagorol.
“Mae ein cynlluniau tai gofal ychwanegol yn llefydd bywiog a hapus lle mae annibyniaeth yn allweddol,” meddai Sharon Morris, Cyfarwyddwr Cymdogaethau Grŵp Cynefin. “Mae urddas, annibyniaeth a chysylltiad yn allweddol, a chartrefi lle gall pobl ffynnu. Mae Awel y Coleg yn enghraifft wych o sut rydyn ni’n cefnogi pobl i fyw bywydau llawn yn hwyrach yn eu bywydau.”
Mae’r Prynhawn Agored yn gyfle i gwrdd â staff, ymweld â’r cyfleusterau, a phrofi’r awyrgylch gynnes, croesawgar sy’n diffinio bywyd yn Awel y Coleg. Does dim angen archebu lle ar gyfer y Prynhawn Agored – dim ond dod ar y diwrnod.
“Mae yna ymdeimlad gwirioneddol o berthyn yma,” meddai Sian Ellis, Arweinydd Tîm Pobl Hŷn Grŵp Cynefin.
“Dim casgliad o gartrefi ydi’r rhain ond mae’n gymuned. Mae yma gwmnïaeth a’r trigolion yn ofalgar am ei gilydd. Rydyn ni’n falch o’r cysylltiadau cryf sydd gennym gyda’r ysgolion, corau a grwpiau cymunedol lleol. O gyngherddau i foreau coffi, mae yna bob amser rhywbeth yn digwydd.”
Mae Awel y Coleg yn cynnal gweithgareddau pontio’r cenedlaethau, perfformiadau cerddorol, a digwyddiadau tymhorol yn rheolaidd sy’n dod â’r trigolion a’r gymuned ehangach at ei gilydd. Mae’r cynllun wedi’i leoli yng nghanol y Bala, gan gynnig tawelwch a chysylltiad hawdd â bywyd lleol.
Manylion y Digwyddiad:
Awel y Coleg, Y Bala, Dydd Mercher 12 Tachwedd, 3-6pm
Does dim angen archebu, dewch draw.
Am fwy o wybodaeth am Awel y Coleg, ewch i grwpcynefin.co.uk neu ffoniwch 0300 111 2122 neu post@grwpcynefin.org.
Am ragor o wybodaeth neu gyfweliadau â’r cyfryngau, cysylltwch â
Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin
Mari.Williams@grwpcynefin.org
07970 142 305