Prosiect i ddathlu ‘paned’ yn dod â chenedlaethau at ei gilydd yn Rhuthun

Mae prosiect i greu darn o waith celf trawiadol sy’n darlunio paned groesawgar o de wedi pontio’r cenedlaethau yn Sir Ddinbych.

Lansiwyd y prosiect gyda disgyblion o Ysgol Pen Barras yn Rhuthun a thrigolion cynllun tai gofal ychwanegol Llys Awelon y dref yn cydweithio i greu dau gwilt lliwgar sy’n dathlu’r baned draddodiadol Gymreig. Bydd yn cael ei arddangos  ar wal yn Llys Awelon i’w fwynhau gan y trigolion, ymwelwyr a staff.

Mae’r cynllun tai gofal ychwanegol, sy’n eiddo i Grŵp Cynefin, ynghanol ail gam prosiect ailddatblygu gwerth £12.2 miliwn. Cwmni lleol, Read Construction, sy’n ailddatblygu’r safle ynghyd â Grŵp Cynefin a’i bartneriaid, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect celf cymunedol yn rhan o agwedd gwerth cymdeithasol y cytundeb.

Arweiniwyd y prosiect celf gan Bethan M Hughes, artist preswyl yng Nghanolfan Grefft Rhuthun gerllaw. Gan weithio gyda’i gilydd, bu 49 o ddisgyblion a 22 o drigolion yn cynllunio, dylunio a phwytho darluniau o o gwpanau a mygiau ar ddarnau o ddefnydd a roddwyd at ei gilydd I greu’r  cwiltiau.

Meddai Bethan: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar y prosiect ers mis Hydref diwethaf ac mae’r plant wedi bod yn dod i Lys Awelon tua unwaith y mis ar gyfer sesiynau gwahanol gyda’r tenantiaid. Roedd yn hyfryd gweld y cyfeillgarwch yn ffurfio rhwng y plant a’r bobl hŷn.

“Roedd yr holl bwytho brodwaith y cwpanau yn cael ei wneud gan y plant a’r trigolion, ac yna fe wnes i roi’r cyfan at ei gilydd fel cwilt.

“Rydw I wedi rhoi’r gair paned, yn enw ar y prosiect. Y syniad y tu ol hyn ydi pryd bynnag rydyn ni’n croesawu unrhyw un i’n cartref, beth ydi’r peth cyntaf rydyn ni’n ei wneud? Cynnig paned o de. Mae bron yn groeso defodol rydyn ni’n ei roi i ymwelwyr, a gan bod yr adeilad yma yn darparu cartref newydd i bobl, roeddwn i’n meddwl y byddai paned yn thema hyfryd.

“Mi wnaeth y plant ddylunio a thorri eu cwpanau allan, a gwneud y pwytho ar gyfer eu sgwariau bach eu hunain. Roeddwn i’n disgwyl iddyn nhw wneud  amlinelliad ond dechreuodd rhai ohonyn nhw addurno eu dyluniad a phwytho eu henw– ac mae’r rhain yn blant nad ydynt erioed wedi pwytho, ‘doedd y mwyafrif llethol erioed wedi gafael mewn nodwydd!

“Y rhan orau i mi oedd gweld y berthynas rhwng y plant a’r tenantiaid, roedd wir yn hudolus.”

Dywedodd Pennaeth Datblygu Grŵp Cynefin, Arwyn Evans, fod y prosiect yn ffordd ddelfrydol o nodi llwyddiant yr ailddatblygiad.

Dywedodd: “Mae’r prosiect celfyddydol yn cyd-fynd yn berffaith â’n hethos o weithio hefo’r gymuned a dod â gwahanol grwpiau cymunedol lleol yn y dref i weithio hefo ni mewn partneriaeth.

“Mae’r gwaith celf ‘paned’ yn ysbrydoliaeth i bawb a gymerodd ran yn ei greu.

Mae’r ailddatblygiad hwn yn rhoi cyfleoedd tai newydd i bobl leol ac yn darparu bywyd annibynnol i bobl a oedd efallai yn ei ffeindio hi’n anodd byw adre’.”

Roedd disgyblion Ysgol Pen Barras yn westeion anrhydeddus mewn te parti arbennig i ddadorchuddio’r cwiltiau.

Dywedodd Deio, naw oed: “Fe wnes i fwynhau’r pwytho fwyaf, dyma’r tro cynta’ i mi roi cynnig arni. Y rhan orau amdano oedd gweld y gwaith celf wedi ei orffen.”

Dywedodd Cai, naw oed: “Roedd o’n rhywbeth gwahanol I’n diwrnod ysgol arferol ni ac roeddwn I’n mwynhau treulio amser hefo’r trigolion fel rhan o’r prosiect, dyma oedd uchafbwynt yr wythnos.”

Ychwanegodd Catrin, sy’n naw oed: “Fe wnes i fwynhau dod i adnabod pobl Llys Awelon a chael sgwrsio am y pethau maen nhw’n mwynhau eu gwneud.”

Roedd y trigolion a gymerodd ran yn y prosiect yr un mor frwdfrydig am y prosiect a dywedodd Gwylan Edwards: “Mae cael y cenedlaethau yn cymysgu a gweithio hefo’i gilydd yn beth mor dda, treulio amser hefo’r plant oedd y darn gorau.”

Dywedodd Ceris Edwards: “Roedd yn brofiad hyfryd – roedd y plant yn hyfryd. Roedden ni’n annog y plant, ac roedden nhw yn sgwrsio hefo ni am bopeth, roedden nhw’n blant da iawn.”

Roedd yn deimlad a adleisiwyd gan Cyril Williams: “Roedd cael y plant a chael y trigolion i gymryd rhan a chael cyfarfod yn rheolaidd yn beth mor hyfryd.

“Roedd yn brosiect ardderchog – mae cael paned o de a rhoi croeso cynnes yn rhan o draddodiad Cymreig. Roedd y plant yn hyfryd, roedden nhw’n ymgolli’n llwyr yn yr hyn oedden nhw yn ei wneud ac yn dweud wrtha i os oedd fy mhwythau yn rhy fawr, roedd yn wych!

“Mae wedi cyfoethogi ein bywydau, a dw i’n credu ei fod wedi cyfoethogi bywydau’r plant hefyd.”

Roedd gan John Astles reswm arbennig iawn i fwynhau’r prosiect celf – oherwydd bod ei or-ŵyr naw oed, Ted, hefyd yn cymryd rhan.

Dywedodd John: “Mae’r prosiect wedi bod yn wych, yn hollol wych. Mae’r gwaith celf gorffenedig yn hollol wych, mae’n glod i’r plant i gyd.”

Daeth Karen Heaton-Morris, Cyfarwyddwr yn Read Construction, i’r dadorchuddio a dywedodd fod y cwmni yn falch iawn o gyfrannu at y prosiect.

Dywedodd: “Roedden ni eisiau rhywbeth i nodi’r gwaith adeiladu, a hefyd cynnwys y gymuned, ac mae’r gwaith celf yn gwneud hynny.

“Mae’n hyfryd gweld y prosiect celf yn dathlu Rhuthun a’r gymuned ehangach. Mae prosiectau sy’n dod â’r cenedlaethau at ei gilydd yn rhywbeth rydyn ni’n hoffi ei gefnogi. Mae’r prosiect adeiladu yn llwyddiant, ac mae wedi bod yn hyfryd gweithio o fewn y gymuned yma, a gweithio gyda’r cleient. Ac mae wedi bod yn hyfryd adeiladu cysylltiadau gyda’r trigolion.”

Am fwy o wybodaeth neu gyfweliadau, cysylltwch â Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin

Mari.Williams@grwpcynefin.org / 07970 142 305

 

 

Cookie Settings